Emily Marchant – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae’r berthynas rhwng iechyd, lles ac addysgu plant yn dangos bod plant sy’n hapusach ac yn iachach yn cyflawni cyrhaeddiad addysgol uwch. Mae gan gwricwlwm sy’n ennyn diddordeb ac sy’n helpu plant i gyflawni eu potensial academaidd llawn oblygiadau cryf ar gyfer deilliannau addysgol, rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol ac iechyd a lles pan fyddant yn oedolion.
Mae dysgu yn yr awyr agored yn ffordd o addysgu sy’n cael ei defnyddio i gyfoethogi dysgu, gwella perfformiad yn yr ysgol a gwella iechyd a lles disgyblion. Fodd bynnag, nid yw ei ffyrdd anhraddodiadol o gyflawni nodau cwricwlaidd wedi’u cydnabod y tu hwnt i’r blynyddoedd cynnar eto gan arolygiaethau addysgol. Mae angen tystiolaeth o’i natur dderbyniol gan y rheiny sydd ar rheng flaen ei gyflwyno.

Yr Ymchwil
Ceisiodd tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe archwilio barn a phrofiadau penaethiaid, athrawon a disgyblion o raglen ddysgu yn yr awyr agored fel rhan o’r cwricwlwm cyfnod allweddol 2 (sef 9 i 11 oed) yn ne Cymru.
Casglodd y tîm dystiolaeth drwy:
- Gyfweliadau unigol â phenaethiaid ac athrawon
- Grwpiau ffocws gyda disgyblion 9-11 oed o dair ysgol gynradd.
Cynhaliwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws ar ddechrau’r astudiaeth ac ar ôl 6 mis. Cyflwynodd ysgolion ddysgu yn yr awyr agored rheolaidd i gyd-fynd â’r cwricwlwm.
Y Canfyddiadau
Canfu’r astudiaeth amrywiaeth o fuddion i ddisgyblion ac ysgolion, gan gynnwys:
- Sylwodd disgyblion ac athrawon ar welliant o ran diddordeb y disgyblion yn eu dysgu, yn eu gallu i ganolbwyntio ac yn eu hymddygiad
- Cafwyd effeithiau cadarnhaol i iechyd a lles a boddhad swydd yr athrawon.
- Y rhwystrau o ran rhoi’r dull newydd ar waith oedd gofynion cwricwlaidd, gan gynnwys profi a chasglu tystiolaeth o waith, ynghyd â phryderon am ddiogelwch, adnoddau a hyder athrawon.
Yr Effaith
Roedd y cyfranogwyr yn cefnogi dysgu yn yr awyr agored fel rhaglen ar sail y cwricwlwm i ddisgyblion hŷn ysgolion cynradd. Fodd bynnag, mae gwreiddio dysgu yn yr awyr agored yn y cwricwlwm yn golygu bod angen i arolygiaethau addysg roi gwerth mwy ar yr ymagwedd hon wrth gyflawni amcanion cwricwlaidd, ynghyd â chydnabyddiaeth fwy o’r buddion ehangach i blant nad yw’r dulliau mesur cyfredol yn rhoi sylw iddynt. Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma.