Trosolwg o’r Prosiect
Rydym ni’n credu ei bod hi’n bwysig deall sut mae iechyd a lles y teulu’n effeithio ar ddyfodol ein plant.Mae ein tîm wedi datblygu dau arolwg – mae’r cyntaf ar gyfer rhai sy’n disgwyl, ac mae’r ail ar gyfer rhieni plant rhwng 18 mis a 2 flwydd a hanner. Mae ein trydydd arolwg, a’r mwyaf newydd, ar gyfer rhieni plant oed meithrin yng Nghymru.
Hoffem ni ofyn i famau a phartneriaid gwblhau’r Arolygon Ganwyd yng Nghymru i helpu i wella dealltwriaeth o’r ffordd orau i gysylltu â theuluoedd yn y dyfodol.Cliciwch isod am ragor o wybodaeth a mynediad at ein harolygon..
Pam cymryd rhan
Nod yr astudiaeth hon yw datblygu’r sylfaen dystiolaeth i ddeall y dylanwadau presennol ar iechyd a lles teuluoedd a sut mae’r rhain yn effeithio ar iechyd ac addysg plant yn ddiweddarach. Gellir defnyddio’r gwaith hwn i gynllunio a llywio polisïau sy’n cefnogi newidiadau i wella iechyd a lles teuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sy’n cael eu hystyried yn fwy agored i niwed. Er y cynhaliwyd astudiaethau o garfanau geni yn y gorffennol, mae newidiadau enfawr wedi bod yn y DU ers eu cynnal ac mae deall dylanwadau ac anghenion presennol teuluoedd sy’n tyfu yng Nghymru ar hyn o bryd yn hanfodol.
Mae’r ymchwil hon yn galluogi dealltwriaeth well o’r materion sy’n wynebu teuluoedd sy’n cael eu magu yng Nghymru i nodi’r materion pwysicaf mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae datblygu’r ddealltwriaeth hon yn golygu y gall yr ymchwil hon lywio polisi ac ymarfer i gyfeirio cymorth yn well i wella bywydau teuluoedd sy’n cael eu magu yng Nghymru, gydag effeithiau hir dymor ar ganlyniadau’r dyfodol.
Mae Ganwyd yng Nghymru yn astudiaeth o garfan geni a ariennir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR). Ei nod yw deall sut mae newidiadau presennol yn effeithio ar iechyd, lles a bywyd teuluol yn ystod beichiogrwydd a blynyddoedd cynnar bywyd, ac o ganlyniad, ar iechyd, lles a chyrhaeddiad plant sy’n cael eu magu yng Nghymru yn y dyfodol.