Ann John, Muhammad Rahman, Mike Kerr, Robert Potter, Jonathan Kennedy, Sinead Brophy – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Ychydig a wyddys am sut mae iechyd meddwl yn yr ysgol gynradd yn effeithio ar iechyd meddwl yn ddiweddarach yn yr arddegau. Archwiliodd yr astudiaeth hon effaith addysg yn yr ysgol gynradd ar ddatblygiad cyflyrau iechyd meddwl.

Yr Ymchwil
Archwiliodd yr astudiaeth hon iechyd meddwl pob plentyn yng Nghymru rhwng 1999 a 2014. Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata o feddygfeydd teulu ac ysbytai, a’i gysylltu â chofnodion addysg. Yna, daliwyd y data hwn yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). System o’r radd flaenaf yw SAIL, wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n dwyn ynghyd wahanol ffynonellau data mewn ffordd ddiogel, ddibynadwy a chyfrinachol – heb enwi unigolion.
Y Canlyniadau
Cysylltwyd cofnodion iechyd 652 903 o blant (319 839 o fechgyn, 307 584 o ferched) â chofnodion addysgol. Datgelodd yr ymchwil:
Rhwng 12 a 21 oed, fod 33,498 o blant (5·1%) wedi datblygu iselder.
Bod 15,946 (2·4%) wedi hunan-niweidio.
Bod gan 2,183 (0·3%) anhwylder bwyta.
Bod 10,458 o fechgyn (3·2%) a 23,040 o ferched (7·5%) wedi cael diagnosis o iselder yn ystod eu plentyndod.
Y rhoddwyd meddyginiaeth wrthiselder i 10,550 o fechgyn (3·3%) a 21,278 o ferched (6·9%).
Bod plant a oedd wedi datblygu iselder yn fwy tebygol na’r rhai nad oeddent wedi datblygu iselder i lwyddo yng nghyfnod allweddol 1 (7 oed) ond nid cyfnod allweddol 2 (11 oed), sy’n awgrymu eu bod yn gwaethygu yn ystod eu haddysg ysgol gynradd.
Ar y llaw arall, roedd y rhai hynny a oedd yn hunan-niweidio, sef 4,736 o fechgyn (1·5%), 11,210 o ferched (3·6%), yn cyflawni cystal â’r rhai nad oeddent yn hunan-niweidio yn yr ysgol gynradd, ond yn dangos dirywiad sylweddol yn yr ysgol uwchradd.
O ran plant ag anhwylder bwyta, dim ond merched oedd yn gysylltiedig â datblygiad yr anhwylder, ac nid oedd cyflawniad addysgol yn sylweddol wahanol i’r rhai hynny heb yr anhwylder. Yng nghyfnod allweddol 3 (14 oed), roedd plant ag anhwylder bwyta’n cyflawni’n dda yn yr ysgol uwchradd.
Yr Effaith
Datgelodd yr astudiaeth hon fod y llwybr cyflawniad yn yr ysgol gynradd yn wahanol iawn i blant sy’n datblygu iselder, ymddygiad hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta.
- Roedd y rhai hynny a ddatblygodd iselder yn hwyr yn eu harddegau (17-19 oed) yn blant difreintiedig y dangoswyd bod eu cyflawniadau’n dirywio yn ystod eu haddysg ysgol gynradd ac yn parhau i ddirywio yn yr ysgol uwchradd. Felly, roedd iselder yn gysylltiedig â dirywiad hirfaith yn yr ysgol.
- Mae dirywiad academaidd yn digwydd yn agos iawn i’r cyfnod hunan-niweidio (14-15 oed), sy’n awgrymu y gallai dirywiad academaidd fod yn ‘symptom’ problem arall ymhlith y rhai sy’n hunan-niweidio.
- Fodd bynnag, nid oedd anhwylderau bwyta yn gysylltiedig ag addysg neu amddifadedd yn yr ysgol gynradd; yn hytrach, roeddent yn gysylltiedig â chyflawniad uchel yn yr ysgol uwchradd.
Mae’r gwaith ymchwil hwn, a ariannwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, yn rhoi dealltwriaeth werthfawr ac yn awgrymu y gallai dirywiad mewn cyrhaeddiad academaidd ddangos y gallai ymyriadau datblygiad emosiynol a chymdeithasol wella a lleihau datblygiad problemau iechyd meddwl yn y dyfodol. Gallai helpu plant i wella eu cyrhaeddiad academaidd a’u cynorthwyo ar adeg gynnar helpu’n uniongyrchol i’w hamddiffyn rhag iselder yn y dyfodol.