Charlotte Todd – Swansea University
Yr Her
Defnyddir ymwybyddiaeth ofalgar o amgylch y byd mewn ystod eang o leoliadau, a cheir diddordeb cynyddol ymhlith ysgolion fel dull o wella llesiant staff a disgyblion.
Er mwyn addysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion, yn gyntaf mae’n rhaid i athrawon ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar eu hunain. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r ymgyrch i wella llesiant mewn ysgolion, efallai y caiff ymwybyddiaeth ofalgar ei gwthio ar athrawon yn hytrach na bod yn rhywbeth yr hoffent ei wneud er eu lles eu hunain.
Yn gyffredinol, mae’r cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer athrawon yn (.b Sylfaenol) yn fyrrach, yn canolbwyntio ar seicoleg yn fwy ac yn cynnwys llai o fyfyrio a thrafod, o’i gymharu â’r cwrs Mindfulness Based Stress Reduction (MBSR) traddodiadol. A fydd hyn yn arwain at wneud y cyrsiau ar gyfer athrawon yn llai effeithiol ac yn llai cynaliadwy? Pa fath o gwrs ymwybyddiaeth ofalgar y dylai athrawon ei ddilyn?
Fel rhan o’n hastudiaeth, aethom ati i gymharu profiadau athrawon o’r ddau gwrs gan archwilio unrhyw newidiadau o ran symptomau iselder, straen a gorbryder.

Yr Ymchwil
Roedd y ddau gwrs wedi gostwng lefelau gorbryder a straen ymhlith athrawon a lwyddodd y cwrs MBSR i ostwng sgôr iselder athrawon yn ogystal.
Gall agweddau a chredau o ran beth yw ymwybyddiaeth ofalgar weithredu fel rhwystr fawr rhag ymgysylltu ag ymwybyddiaeth ofalgar oherwydd y caiff ei hystyried fel rhywbeth “hipi” “gwlanog” a “ffwrdd â hi”. Felly, dylai ceisiadau i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i athrawon sicrhau y rhoddir rhywfaint o ffocws ar y dystiolaeth a’r wyddoniaeth y tu hwnt i’r ymagwedd a dylid rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o newid enw’r cwrs fel nad yw’n sôn am ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae’r grŵp, yr hwylusydd, yr amseru a’r lleoliad yn ffactorau pwysig i’w hystyried wrth gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i athrawon.
Effaith
Caiff y canlyniadau eu dosbarthu’n eang i ysgolion trwy ein rhwydweithiau ysgolion, yn ogystal â “The Conversation”, cyfryngau cymdeithasol a mynychu cynadleddau.