Prof Jane Noyes, Soo Vinnicombe – Prifysgol Bangor
Yr Her
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 yn fframwaith cyfreithiol sy’n crynhoi cyfraith y gwasanaethau cymdeithasol ac yn ei diweddaru. Mae hefyd yn pennu’r hyn y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ei wneud i helpu pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt.
O dan y Ddeddf, a ddaeth i rym yn 2016, mae’n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd weithio ar y cyd i asesu anghenion gofal a chymorth (ac anghenion cymorth gofalwyr) y boblogaeth yn eu maes hwy, er mwyn nodi’r gwasanaethau y mae eu hangen.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd baratoi a chyhoeddi cynlluniau ardal, gan nodi:
- Ystod a lefel y gwasanaethau maent yn cynnig eu darparu
- Sut y caiff y gwasanaethau eu darparu
- Pa adnoddau y mae eu hangen i gyflwyno’r cynllun
- Sut y byddant yn monitro ac yn gwerthuso’r gwasanaethau sy’n cael eu nodi yn y cynllun.

Yr Ymchwil
Mae’r adroddiad, a wnaed gan y tîm NCPHWR ym Mhrifysgol Bangor, yn ganlyniad dadansoddiad a wnaed rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2018. Nod yr ymarfer hwn oedd defnyddio cynlluniau ardal awdurdod lleol i nodi blaenoriaeth sy’n gyffredin ledled Cymru ar gyfer anghenion gwasanaethau cymdeithasol y gellid eu defnyddio i nodi bylchau yn yr ymchwil.
Bu’r tîm ymchwil yn:
- Canfod yrr adroddiadau
- Cymharu’r themâu a oedd wedi’u cynnwys ym mhob adroddiad
- Dadansoddi’r testunau i nodi ardaloedd o flaenoriaeth a bylchau o ran anghenion gofal cymdeithasol ac iechyd a fyddai o ddiddordeb i NCPHWR.
Gweithiodd 22 awdurdod lleol Cymru mewn partneriaethau rhanbarthol i lunio saith set o gynlluniau ardal, a oedd yn cynnwys Cymru gyfan.
Y Canlyniadau
Y ddau brif faes ymchwil ar gyfer NCPHWR yw’r canlynol:
- Datblygu’n iach – Plant a Phobl Ifanc
- Heneiddio’n Iach – Cynnal Iechyd a Lles ac Oedolion sy’n agored i Niwed
Edrychodd dadansoddiad y tîm ar Gynlluniau Ardal mewn cymhariaeth â’r themâu uchod.
Nododd yr adroddiad y themâu blaenoriaeth canlynol dan Ddatblygu’n Iach:
- Profiadau Andwyol mewn Plentyndod
- Plant sy’n Derbyn Gofal
- Iechyd Meddwl
- Anghenion Cymhleth
- Cymorth i Deuluoedd
- Pontio
- Diogelu
- Y Gymraeg.
Yn achos Heneiddio’n Iach, mae’r dadansoddiad yn fwy cymhleth oherwydd bod gan y cynlluniau gwahanol ffyrdd amrywiol o drefnu gwybodaeth am heriau i iechyd a lles oedolion. Yn gyffredinol, mae fformat yr adroddiad hwn yn nodi’r themâu blaenoriaeth canlynol o’r asesiadau anghenion poblogaethau:
- Pobl hŷn
- Iechyd ac Anableddau Corfforol a Namau Synhwyraidd
- Anabledd Dysgu ac Awtistiaeth
- Iechyd Meddwl
- Gofalwyr.
Meysydd blaenoriaeth a nodwyd ar gyfer ymchwil ac archwilio pellach:
- Pobl hŷn: Cymunedau, Gofal Dementia, Arwahanrwydd Cymdeithasol ac Unigrwydd, Gweithio mewn Partneriaeth, Cartrefi Gofal, Gwybodaeth a Mynediad i Wasanaethau.
- Iechyd ac Anableddau Corfforol a Namau Synhwyraidd: Hybu Iechyd a Lles yn gyffredinol, Gweithio mewn Partneriaeth ac yn Integredig, Mynediad i Wasanaethau, Adolygiadau Pellach a Phroblemau Iechyd Penodol.
- Anabledd Dysgu ac Awtistiaeth: Cymuned, Annibyniaeth a Rheoli, Bod yn Iach ac yn Ddiogel, Strategaeth, Awtistiaeth, a Phontio.
- Iechyd Meddwl: Atal ac Ymyrryd yn Gynnar, Triniaeth ac Adfer, Plant, Cymuned, Strategaeth a Chynllunio, ac Integreiddio.
- Gofalwyr: Cymorth, Nodi a Chydnabod, Ymgysylltu, Strategaeth.
Yr Effaith
Mae nodi bylchau, a meysydd lle mae mwy o ymchwil neu archwilio’n ofynnol, yn hanfodol i wella darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae diffyg gwybodaeth yn y meysydd hyn yn cyfyngu ar allu’r GIG a llywodraeth leol i ddeall effeithiolrwydd gwasanaethau cymdeithasol a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut i lywio a neilltuo adnoddau ar gyfer gofal a chymorth.
Mae NCPHWR yn cydnabod pwysigrwydd ymchwil ar sail tystiolaeth ac mae’r adroddiad hwn yn cynnig gwybodaeth a meysydd o ddiddordeb o ran ymchwil a fydd yn ddefnyddiol i ddatblygiad strategol a gweithrediad parhaus y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth.