Dr Lisa Hurt – Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Mae clefyd cronig yr arennau yn cyfrannu’n fwyfwy i’r faich byd-eang o glefydau cronig. Mae diagnosio clefyd yr arennau a’i drin yn gynnar yn bwysig gan y gall leihau niwed hirdymor i’r arennau. Gall ymlediad pelfis arennol ysgafn (RPD) a nodir yn y ffetws yn ystod y sgan uwchsain am 18 i 20 wythnos fod yn arwydd cynnar o broblemau arennol y gellid ei ddefnyddio i nodi plant y bydd angen gofal dilynol arnynt yn ystod plentyndod.

Yr Ymchwil
Cysylltwyd astudiaeth o ddata uwchsain o 2009 a 2011 â chofnodion derbyn cleifion i’r ysbyty.
Y Canfyddiadau
Yn yr astudiaeth garfan hon o fwy na 20,000 o blant yng Nghymru, roedd gan blant a oedd wedi dangos ymlediad pelfis arennol yn ystod y sgan am 18 i 10 wythnos gyfraddau uwch o gael eu derbyn i’r ysbyty pan oedd yr ymlediad wedi parhau yn hwyrach yn y beichiogrwydd neu wedi geni’n unig.
Yr Effaith
Mae ymlediad pelfis arennol yn ganfyddiad pwysig gan ei fod yn nodi’r plant hynny y mae angen gofal dilynol arnynt yn ystod plentyndod. Mae angen protocolau clir ar gyfer adrodd am RPD ac ymchwilio iddo ymhellach. Gellir defnyddio canlyniadau’r tîm gan Sgrinio Cyn Geni Cymru i ddatblygu taflenni newydd i ddarpar rieni, a chanllawiau newydd ar gyfer y staff sy’n gwneud y sganiau uwchsain yn ystod beichiogrwydd.
Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil, ewch i: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0140673618320713