Margiad Williams, Prifysgol Bangor
Yr Her
Mae cyffredinolrwydd bwlio a’r effeithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â bwlio, yn bryder byd-eang, lle mae tuag un o bob 10 plentyn yn fyd-eang yn dweud ei fod yn cael ei fwlio’n rheolaidd. Mae profiad rheolaidd o fwlio’n peri effeithiau tymor hir ar iechyd y dioddefwyr a’r rhai sy’n bwlio, ynghyd â chanlyniadau cymdeithasol ac emosiynol. Mae dioddefwyr yn fwy tebygol o sôn am fewnoli symptomau megis pryder ac iselder ysbryd, hunan-niwed a meddyliau am hunanladdiad, cyflawniad academaidd is ac unigrwydd cymdeithasol cynyddol. Mae’r rhai sy’n bwlio’n fwy tebygol o ymwneud â gweithgarwch troseddol yn oedolion ifanc.
Er bod nifer o raglenni ar gael i atal bwlio, mae’r dystiolaeth o’u heffeithiolrwydd yn ansicr. Mae KiVa yn rhaglen i atal bwlio mewn ysgolion, a ddyfeisiwyd yn y Ffindir gan yr Athro Christina Salmivalli, ar gyfer plant rhwng 7 a 15 oed. Mae’n seiliedig ar ymchwil sy’n awgrymu bod dioddefwyr yn sôn am drallod cynyddol pan nad yw pobl yn ymyrryd mewn digwyddiadau bwlio; fodd bynnag, mae’r bwlio yn tueddu i ddod i ben pan fydd pobl eraill yn ymyrryd. Mae KiVa yn addysgu plant i adnabod bwlio ac ymateb yn briodol iddo. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar ymagwedd ysgol gyfan, yn ogystal â gweithdrefnau wedi’u targedu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio.
Mae tystiolaeth o’r Ffindir yn dangos gostyngiadau sylweddol yn nifer yr adroddiadau am fwlio ac erledigaeth, yn ogystal â gwelliannau mewn iechyd meddwl ymhlith plant, canfyddiadau cyfoedion a pherfformiad academaidd. Dangosodd treial peilot ar raddfa fach yng Nghymru a Swydd Gaer ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys gostyngiadau yn nifer yr adroddiadau am fwlio ac erledigaeth. O ganlyniad, mae’r rhaglen wedi cael ei rhoi ar waith mewn nifer o ysgolion yn y DU.

Yr Ymchwil
Bu ymchwilwyr yn archwilio effeithiau’r rhaglen KiVa mewn 41 o ysgolion flwyddyn ar ôl iddi gael ei gweithredu. Cyflwynodd yr ysgolion y rhaglen yn eu hystafelloedd dosbarth Cyfnod Allweddol 2. Mae Cyfnod Allweddol 2 yn cynnwys disgyblion ym mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 (rhwng 7 ac 11 oed).
Casglwyd data ar ffurf arolwg blynyddol sy’n cynnwys adroddiadau gan y disgyblion eu hunain am fwlio ac erledigaeth. Cwblhawyd yr arolwg hwn cyn i raglen KiVa gael ei gweithredu ac ar ddiwedd blwyddyn gyntaf ei gweithredu. Roedd yr holl ymatebion yn ddienw. Casglwyd data am gost gweithredu’r rhaglen hefyd.
Y Canfyddiadau
Dangosodd y canlyniadau ostyngiadau sylweddol mewn bwlio ac erledigaeth ar ôl blwyddyn o weithredu’r rhaglen gwrthfwlio, KiVa. Roedd cost rhoi’r rhaglen ar waith yn fach (£2.84 y flwyddyn fesul disgybl Cyfnod Allweddol 2).
Yr Effaith
Mae canlyniadau’r ymchwil yn addawol iawn ac yn awgrymu’r angen am werthusiad pellach a thrylwyr. Yn ddiweddar, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor (ar y cyd â Phrifysgolion Caerdydd, Caerwysg, Rhydychen a Warwick) wedi ennill grant sylweddol gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd i werthuso ymhellach y rhaglen KiVa ar draws y DU.
Yn ddiweddar, llwyddodd ymchwilwyr i sicrhau grant sylweddol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd er mwyn gwerthuso rhaglen KiVa ymhellach ledled y DU.
Hyd yn hyn, mae’r Children’s Early Intervention Trust (canolbwynt KiVA yn y DU), sef yr unig sefydliad sy’n darparu hyfforddiant ar raglen KiVa yn y DU, wedi hyfforddi dros 200 o ysgolion i roi’r rhaglen ar waith.
Gallwch ddarllen y cyhoeddiad llawn yma: https://journals.sagepub.com/doi/pdf/10.1177/0143034319841099