Charlotte Todd – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Gall iselder ymhlith pobl ifanc arwain at iechyd a chanlyniadau cymdeithasol gwael. O ganlyniad, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amlygu’r angen i nodi’r hyn sy’n achosi’r risg mwyaf i bobl wrth ddatblygu iselder er mwyn dylunio gwasanaethau a fydd yn ymateb iddo.
Rydym eisoes yn gwybod bod cael rhiant ag iselder yn ffactor risg mawr ymhlith pobl ifanc sy’n datblygu iselder. Fodd bynnag, faint o’r risg hwnnw sy’n deillio o’r ffaith bod plentyn yn byw gyda rhiant sy’n dioddef o iselder? Ac a oes risg i blentyn y mae gan ei fam neu ei dad hanes blaenorol o iselder cyn ei enedigaeth? A yw’r risg hwn yn wahanol gan ddibynnu ar ai eich mam neu’ch tad sydd wedi dioddef o iselder? Archwiliodd tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe i’r cwestiynau hyn yn fwy manwl.

Yr Ymchwil
Mae’n hymchwil yn cynnwys astudio data 500,000 o blant, a mwy na 250,000 o famau a 100,00 o dadau.
Y Canfyddiadau
Mae canlyniadau cynnar yn dangos bod y risg o ddatblygu iselder a methu mewn arholiadau ysgol ar ei uchaf ymhlith plant yr oedd gan eu rhieni iselder cyn ac ar ôl genedigaeth eu plentyn, gan ddangos bod hyd cyfnod iselder y rhiant yn bwysig. Er bod y risg ychydig yn uwch yn achos mamau, gwnaeth byw gyda thad ag iselder hefyd wneud i blant fod yn fwy tebygol o ddatblygu iselder yn hwyrach a methu mewn arholiadau ysgol.
Mae’r tîm yn credu bod ymyrryd yn gynnar yn allweddol i wella canlyniadau plant. Mae rhai o’r argymhellion allweddol yn cynnwys:
- Buddsoddi mewn ymyriad teuluol cynnar, pan geir iselder yn y naill rhiant neu’r llall a gall gyfrannu’n sylweddol i’r agenda atal, gan wella amrywiaeth o ganlyniadau plentyn.
- Yn draddodiadol, mae ymweliadau iechyd ac ymyriadau eraill yn y maes hwn wedi rhoi pwyslais mawr ar sgrinio ar gyfer iselder ac ymyrryd gyda mamau. Mae ymwybyddiaeth fwy o iselder mewn tadau yn ofynnol.
- Mae angen ymagwedd fwy cyfannol wrth fynd i’r afael ag iechyd meddwl mewn teuluoedd yn ofynnol.
Yr Effaith
Gallai helpu rhieni sy’n dioddef o iselder gael buddion hirhoedlog i’r plentyn. Yn bwysig, bellach gellir ddefnyddio’r canlyniadau hyn i lywio ymyriadau a gwasanaethau i helpu i atal problemau sy’n gysylltiedig ag iselder ac, yn y pen draw, gwella canlyniadau i deuluoedd a phlant.