Shantini Paranjothy, David Fone, D Phil, Frank Dunstan – Prifysgol Caerdydd; William Watkins, Melanie Hyatt, Joanne Demmier, Ronan Lyons – Prifysgol Abertawe.
Ymchwiliodd tîm o Sefydliad Farr CIPHER a NCPHWR y cysylltiad rhwng perygl gorfod mynd i’r ysbyty ar frys oherwydd problemau anadlu yn ystod plentyndod a genedigaethau cyn pryd.
Yr Her
Mae geni cyn pryd, sef pan fydd baban yn cael ei eni’n gynnar cyn diwedd 37 wythnos o feichiogrwydd, yn gysylltiedig â phroblemau anadlu, nam twf a datblygiad yr ymennydd neu’r system nerfol ganolog, a gall effeithio ar ganlyniadau addysgol. Mae cyfraddau geni cyn pryd wedi cynyddu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf ac mae’r effeithiau tymor hir a’r goblygiadau i iechyd yn achos pryder i feddygon ac iechyd cyhoeddus.

Yr Ymchwil
Mae llawer o astudiaethau wedi canolbwyntio ar fabanod a anwyd cyn 32 wythnos, ond ychydig o astudiaethau sy’n ymwneud â babanod a anwyd rhwng 34 a 36 wythnos. Astudiodd y prosiect ymchwil hwn enedigaethau yn amrywio o 32 wythnos hyd at 42 wythnos o feichiogrwydd.
Astudiodd yr ymchwilwyr gofnodion iechyd ar gyfer 318 613 o blant a anwyd yng Nghymru rhwng 1998 a 2008. Gwnaed y cofnodion hyn yn ddienw fel na ellid adnabod unigolion.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar dderbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd problemau anadlu mewn plant hyd at 5 oed.
Y Canlyniadau
Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth fod perygl gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd problemau anadlu yn lleihau bob wythnos hyd at 40 i 42 wythnos; sy’n golygu bod llai o risgiau iechyd i fabanod a enir yn ddiweddarach yn y beichiogrwydd.
Hyd yn oed ar 39 wythnos, roedd perygl uwch o orfod mynd i’r ysbyty ar frys oherwydd problemau anadlu o gymharu â babanod a anwyd rhwng 40 a 42 wythnos.
Yr Effaith
Yn bwysig, dangosodd yr ymchwil faint o wybodaeth gyfoethog y gellir ei chael o astudio cofnodion iechyd cysylltiedig ar raddfa fawr i archwilio achosion clefyd a defnydd o ofal iechyd mewn plant, yn enwedig wrth ganolbwyntio ar oedran geni.
Trwy ddefnyddio data wrth ymchwilio, mae’r tîm wedi gallu gwella ein dealltwriaeth o nifer y babanod yr effeithir arnynt. Mae nifer y plant iau na 5 oed a chanddynt broblemau anadlu sy’n gysylltiedig â genedigaeth gynnar yn sylweddol fawr ac felly’n cael effaith ar wasanaethau iechyd a chostau i’r GIG.