Yr Athro Ronan Lyons – Cyfarwyddwr Sefydliad Farr CIPHER ac NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe ac Ymgynghorydd Anrhydeddus gydag Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Farr ac NCPHWR wedi creu’r Ganolfan Gwybodaeth am Ofal Iechyd Darbodus i ddarparu gwell canlyniadau i’r GIG trwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth.
Yr Her
Yr her sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru yw cyflawni gwell canlyniadau i gleifion yn sgil galw bythol gynyddol am wasanaethau gofal iechyd, a chyllidebau ac adnoddau sy’n lleihau.
Mae GIG Cymru yn arwain y ffordd mewn ymdrech ryngwladol gynyddol i gael gwell gwerth o systemau gofal iechyd i gleifion trwy ddilyn egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus, sef:
- Dylai gofal iechyd weddu i anghenion ac amgylchiadau’r dinesydd.
- Dylai gofal iechyd gymryd camau pendant i osgoi gwastraff a niwed.
- Dylid rhoi’r gorau i ofal iechyd nad yw’n arwain at lawer o fudd, neu nad yw’n fuddiol o gwbl.
- Mae’n rhaid i ofal iechyd wneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau ariannol cyfyngedig sydd ar gael.

Y Ganolfan Gwybodaeth am Ofal Iechyd Darbodus
Heb allu cysylltu’r data a ddelir mewn cofnodion meddygol, prin yw’r ddealltwriaeth sydd gan Fyrddau Iechyd yng Nghymru o ganlyniadau’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt a’r dystiolaeth sy’n angenrheidiol i gyfeirio cynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.
I fynd i’r afael â’r broblem hon, mae Sefydliad Farr wedi creu’r Ganolfan Gofal Iechyd Darbodus i ddarparu gwell canlyniadau i’r GIG trwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth.
Mae’r Ganolfan Gwybodaeth am Ofal Iechyd Darbodus yn gweithredu ar draws GIG Cymru ac yn defnyddio’r cofnodion iechyd a’r data dienw a ddelir yn y gronfa ddata SAIL i gael dealltwriaeth well o’r boblogaeth, a gwerthuso a chynllunio gwasanaethau’n briodol.
Ar hyn o bryd, mae’r Ganolfan Gwybodaeth am Ofal Iechyd Darbodus yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Byrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Aneurin Bevan, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Gwaith sy’n mynd rhagddo
Mae’r prosiect cyntaf yn cynnwys gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) i archwilio data i lywio gofal strôc a helpu i’w wneud yn fwy effeithiol.
Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod y bu cynnydd graddol yn nifer y cleifion strôc a oedd yn cael eu trin yn yr ysbyty a hyd eu harhosiad. Mae amryw setiau data a chofnodion yn cael eu dwyn ynghyd i fesur ffactorau risg a gwahanol fathau o strociau a’u llwybr gofal. Yna, gellir defnyddio canlyniadau’r gwaith ymchwil hwn i lywio a gwella’r gwasanaethau a ddarperir gan feddygfeydd teulu. Gan weithio ochr yn ochr â’r Uned, mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio canfod yr hyn y dylai ei wneud i wella gwasanaethau strôc, o ystyried yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn ystod adeg o gyni a gofynion sy’n cynyddu.