Yr Her
Mae Doeth am Iechyd Cymru yn astudiaeth ymchwil gyfrinachol, sy’n ceisio datblygu gwybodaeth drylwyr am iechyd y genedl. Bydd y wybodaeth a enillir yn cael ei defnyddio i helpu’r GIG i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cymorth ar gyfer anghenion iechyd a gwerthuso gwasanaethau a pholisïau.
Bwriad yr astudiaeth yw codi ymwybyddiaeth o waith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ymysg y cyhoedd, a chynnig ffordd i’r cyhoedd gymryd rhan weithredol mewn gwaith ymchwil a chyfrannu ato.

Y Gwaith Ymchwil
Mae aelodau’r cyhoedd yn cofrestru ac yna’n ateb cwestiynau am eu hiechyd a’u lles ar wefan yr astudiaeth. Ar gyfartaledd, mae’n cymryd tua 10-15 munud i bobl gwblhau’r holl holiaduron yn syth ar ôl ei gilydd.
Yna, mae’r astudiaeth yn cysylltu â’r cyfranogwyr bob 6 mis i ofyn cwestiynau am ffordd o fyw, iechyd a lles – fel bod modd i’r ymchwilwyr weld sut mae ffyrdd o fyw ac iechyd y cyfranwyr yn newid.
Bydd aelodau’r cyhoedd sy’n cofrestru ar gyfer yr astudiaeth hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol penodol a all fod yn berthnasol iddynt. Gall hyn gynnwys cysylltu â nhw o ganlyniad i gyflwr penodol (clefyd y galon, llid yr ymennydd, diabetes, canser ac ati).
Mae gwaith ymchwil yn hanfodol er mwyn datblygu gwell triniaethau a rheoli afiechydon.
- Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau iechyd.
- Mae pobl yn byw’n hirach, ond mae un oedolyn ym mhob tri yn dweud bod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn cael eu cyfyngu gan broblem iechyd, ac mae hanner y bobl dros 65 oed yn cael triniaeth ar gyfer dau neu fwy o gyflyrau iechyd.
- Cynhelir nifer o astudiaethau er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae ymchwilwyr yn cael trafferth recriwtio digon o bobl.
Y Canlyniadau
Mae’r gwaith ymchwil wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac wedi’i gymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Cymru, ac mae’n cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data er mwyn sicrhau bod data’n parhau i fod yn breifat ac yn gyfrinachol.
Mae’r astudiaeth yn defnyddio manylion y cyfranogwyr (enw, cyfeiriad, cod post a dyddiad geni) er mwyn cael mynediad at eu rhif GIG a gwybodaeth yn eu cofnodion iechyd sy’n cael eu cadw gan eu meddyg neu gan y GIG. Yna, gellir defnyddio’r wybodaeth hon, ynghyd â’r wybodaeth a roddir trwy’r wefan, er mwyn ateb cwestiynau fel “Pam mae rhai pobl yng Nghymru’n fwy iach nag eraill, er eu bod yn byw yn yr un ardal?” neu “Pam mae pobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty yng Nghymru, a beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod llai o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty?”
Pan gaiff y wybodaeth o’r holiaduron ei chysylltu â data’r GIG, caiff yr holl fanylion a all gael eu defnyddio i adnabod cyfranogwr eu dileu. Am ragor o fanylion am sut mae hyn yn gweithio, ewch i Healthwise Wales Data
Bydd data cyfranogwyr yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynorthwyo amcanion ymchwil y prosiect yn unig. Mae gan yr astudiaeth reoliadau diogelwch trylwyr, sy’n cael eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau nad yw’r wybodaeth adnabyddadwy’n cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall.
Yr Effaith
Dywedodd yr Athro Shantini Paranjothy, o NCPHWR, bod y prosiect wedi’i seilio ar “draddodiad cryf o waith ymchwil ar iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Bydd y prosiect hwn ar raddfa fawr, a bydd yn defnyddio technoleg fodern i gynnwys pobl mewn gwaith ymchwil a darparu cyfleoedd i gyfrannu at y ffordd y mae astudiaethau ymchwil yn cael eu dylunio a’u cynnal. ”
Y nod yw adeiladu delwedd fanwl o iechyd y genedl, gan ddefnyddio’r data i gynllunio gwasanaethau’r GIG yn y dyfodol. Bydd cyfranwyr yr astudiaeth yn helpu i ateb y cwestiynau mawr a fydd yn gwella gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, arwain at well driniaethau, ac ehangu iechyd a lles pobl Cymru.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: Healthwise Wales