Jonathan Kennedy – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae gwiriad iechyd yn cynnwys sgrinio ar gyfer clefydau megis diabetes, mesurau iechyd cyffredinol megis gwiriadau colesterol a phwysau gwaed ac adolygu meddygaeth.
Cyflwynwyd gwiriadau iechyd blynyddol yng Nghymru yn 2006 i bob oedolyn ag anabledd dysgu ar gofrestr y gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw pob oedolyn ag anabledd dysgu’n cael gwiriad iechyd blynyddol.

Yr Ymchwil
Astudion ni gofnodion meddygon teulu ar gyfer 30,342 o bobl ag anableddau dysgu rhwng 2006 a 2017.
Y Canfyddiadau
O’r 30,342 o bobl, roedd gan 25% ohonynt yn unig (sef 7,614) gofnod ar nodiadau’r meddyg teulu eu bod erioed wedi cael gwiriad iechyd. Roedd y gyfradd farwolaeth yn uwch ar gyfer y rhai hynny nad oeddent wedi cael gwiriad iechyd nac i’r sawl a oedd wedi’u cael.
Roedd cael gwiriad iechyd fwyaf buddiol os oedd pobl wedi’u cael yn iau (rhwng 18 a 15 oed) pan oedd y risg o farwolaeth yn hanner y risg o’i gymharu â phobl o’r un oedran nad oeddent wedi cael gwiriad iechyd.
Yr Effaith
Mae’r gwaith hwn yn dangos y gall gwiriad iechyd leihau’r gyfradd farwolaeth i bobl ag anableddau dysgu, yn enwedig os cânt eu cynnal pan fyddant yn iau ac yn enwedig yn achos pobl ag awtistiaeth ac epilepsi.
Gobaith y tîm ymchwil yw y gall y gwaith hwn annog meddygon teulu, teuluoedd a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu sicrhau eu bod yn cael gwiriad iechyd rheolaidd.