Jane Noyes, David Dallimore & Barbara Neukirchinger – Prifysgol Bangor
Yr Her
Yn gyffredinol, nodwyd bod gan bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed â chlefyd cronig yr arennau (CKD) ganlyniadau iechyd gwael a’u bod yn grŵp risg uchel yn rhannol o ganlyniad i hunanreolaeth wael.

Yr Ymchwil
Cynhaliodd tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor adolygiad systematig, yn astudio ac yn adolygu ymchwil bresennol, gyda’r nod o ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd yn ystod pontio rhwng gwasanaethau plant ac i oedolion i bobl ifanc â CKD.
Er mwyn nodi bylchau a chyfleoedd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, nod yr adolygiad hwn oedd:
- Nodi anghenion a phroblemau pontio yn seiliedig ar brofiad pobl ifanc.
- Cadarnhau effeithiolrwydd, cost-effeithiolrwydd ac effeithiau ehangach ymyriadau i gefnogi’r broses bontio i bobl ifanc â CKD.
- Ymchwilio i farn a phrofiadau pontio pobl ifanc â CKD, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Y Canlyniadau
-
- Adroddwyd mai grymuso oedd y broblem bontio allweddol i bobl ifanc nad oeddent yn teimlo eu bod yn barod ar gyfer pontio. Mae rhai pobl ifanc yn teimlo’n ddi-rym o ran cael cyfarwyddyd i reoli eu clefyd, tra bydd eraill yn poeni ynghylch cymryd cyfrifoldeb am eu cyflyrau gyda chanlyniadau sy’n peryglu bywyd.
- Dywedodd pobl ifanc â CKD fod angen ystod o wybodaeth arnynt i gefnogi eu pontio, gan gynnwys gwybodaeth ar newidiadau bywyd clinigol ac ehangach. Mae gwasanaethau plant yn dibynnu ar rieni. Fodd bynnag, dywedodd rhieni mai prin iawn oedd y wybodaeth am helpu plentyn â chyflwr hir dymor yn ystod pontio.
- Roedd ansawdd y cyfathrebu’n amrywio’n fawr yn ystod pontio. Wrth i bobl ifanc heneiddio, dangosodd yr adolygiad eu bod yn dibynnu’n fwy ar ffynonellau anffurfiol o gyfathrebu, megis ffrindiau a chymunedau ar-lein, ac mae hyn yn codi pryderon ynghylch ansawdd a chywirdeb y negeseuon hyn. Dywedodd pobl ifanc fod angen amser i siarad am drosglwyddo arnynt â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ond unwaith eu bod wedi trosglwyddo i glinigau i oedolion (tua 16 i 18 oed), disgwylir iddynt gael mwy o wybodaeth am eu cyflwr nad oedd ganddynt cyn hynny.
- Yn gyffredinol, roedd adborth am weithwyr cefnogi cymheiriaid i helpu pobl ifanc drwy’r broses yn gadarnhaol iawn. Gan nad ydynt yn weithwyr clinigol, roedd yn haws i weithwyr cefnogi gael golwg cyflawn o’r newid o blentyndod i fod yn oedolyn, gan dderbyn bod newidiadau bywyd yn gysylltiedig â newidiadau iechyd.
- Nid yw effeithiolrwydd rhwydweithiau cefnogi cymheiriaid ehangach yn glir. Mewn un arolwg, roedd yr un nifer o bobl ifanc yn dweud yr hoffent gwrdd â phobl ifanc eraill â CKD â’r nifer a oedd yn dweud na fyddant yn hoffi gwneud hynny.
- Archwiliodd un astudiaeth yr effaith ar ganlyniadau addysgol pobl ifanc â CKD, gan ddarganfod bod gan blant sy’n dioddef o CKD cyn glaslencyndod gyrhaeddiad gwaeth yn yr ysgol.
- Roedd rhai pobl ifanc yn profi trosglwyddiad cyfyngedig rhwng gwasanaethau plant ac i oedolion. Mynegodd pobl ifanc bryder sylweddol o ganlyniad. Hefyd, roedd rhieni am gael tawelwch meddwl y gallant ymdopi oherwydd yn aml, golyga symud i mewn i ofal i oedolion golli’r pecyn cefnogaeth teulu ehangach.
- Darganfu un astudiaeth a oedd yn canolbwyntio ar rôl rhieni y gallant gael trafferth o’r tensiwn rhwng gwthio’r unigolyn ifanc i fod yn annibynnol a bod yn rheini amddiffynnol.
- Ychydig iawn o’r bobl ifanc oedd yn hoff o glinigau i oedolion. Roeddent yn feirniadol o’r diffyg cymorth bugeiliol, ac roedd rhai yn ei alw’n amhersonol a dywedodd un fod pontio’n . “teimlo fel cael eu dympio”. Roedd teuluoedd pobl ifanc â CKD yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi’u heithrio mewn clinigau i oedolion.
- Roedd rhai pobl ifanc yn priodoli diffyg cydymffurfiad i anghofio a achosir gan bwysau allanol datblygu bywyd cymdeithasol, blaenoriaethau sy’n newid bywyd neu’r defnydd o alcohol – pob ymddygiad cymryd risg sy’n peryglu iechyd eu harennau a’u lles cyffredinol.
Yr Effaith
Mae canfyddiadau’n cadarnhau bod pobl ifanc â CKD yn rhannu problemau pontio cyffredin. Mae’r adolygiad hwn yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o’r cymhlethdodau y mae’n rhaid i ymarferwyr eu hystyried wrth gynllunio pontio llwyddiannus i grŵp diamddiffyn o bobl ifanc. Rhaid deall anghenion pobl ifanc a’u hystyried ar gyfer pontio, er ei bod yn ymddangos nad yw’r ymarfer presennol wedi’i alinio a’i fod yn gaeth i lwybrau sy’n ymwneud ag iechyd.
Canfu’r adolygiad, a ariannwyd yn rhannol gan Uned Ymchwil Arennau Cymru, fod y bwlch rhwng diwylliant ac ymarfer a gwasanaethau plant ac i oedolion yn aml yn rhy fawr i bobl ifanc ei oresgyn. Mae angen ailddylunio gwasanaethau iechyd a gofal er mwyn cynnwys dylanwad ffactorau unigol a ecolegol-gymdeithasol yn well.
Mae angen sefydlu mecanweithiau effeithiol ar gyfer cynnwys pobl ifanc mewn ymchwil a datblygiad gwasanaethau. Mae angen i ymchwil y dyfodol ehangu y tu hwnt i opteg feddygol a chael ei harwain gan safbwyntiau amlddisgyblaethol amgen a gofal cymdeithasol, a chan bobl ifanc eu hunain.
Yn bwysig, mae’r adolygiad hwn yn crynhoi ac yn darparu tystiolaeth i lywio datblygiad gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a nodi’r arferion gweithio sydd fwyaf effeithiol yn ystod pontio. Am ragor o wybodaeth a manylion am yr ymchwil, ewch i: visit: https://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0201098