Charlotte Todd – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae iechyd emosiynol da fel plentyn yn gosod cynsail ar gyfer boddhad bywyd da fel oedolyn. Fodd bynnag, yn y DU, mae hapusrwydd plant a phobl ifanc yn eu bywydau bellach ar ei isaf ers 2010.

Yr Ymchwil
Gan ddefnyddio canlyniadau a gasglwyd drwy HAPPEN, lle gofynnwyd i blant rhwng 8 ac 11 oed yr hyn y byddent yn ei newid i wella eu hiechyd a’u lles, roedd yn bosib inni ddod o hyd i atebion o ran pam a beth y gellid ei wneud i wneud i blant fod yn hapusach ac yn iachach.
Y Canfyddiadau
Y pedwar prif awgrym gan blant oedd fel a ganlyn:
- Rhowch fwy o leoedd inni chwarae
- Crëwch gyfleusterau lleol lle gallwn fod yn actif
- Glanhewch y strydoedd
- Gwnewch y ffyrdd yn fwy diogel
Yr Effaith
Rhaeadrwyd canlyniadau’r ymchwil yn eang drwy’r cyfryngau, mewn cynadleddau i weinidogion y llywodraeth ac i dimoedd asesu digonedd chwarae awdurdodau lleol.
Mae plant dan bwysau enfawr i gyrraedd targedau llythrennedd a rhifedd, gan fyw mewn byd sy’n canolbwyntio ar brawf ar ôl prawf. Golyga hyn fod chwarae’n colli tir fel blaenoriaeth, yn enwedig ym mlynyddoedd hwyrach yr ysgol gynradd, er gwaetha’r ffaith ei fod yn hanfodol ar gyfer dysgu amrywiaeth o sgiliau lles na ellir eu dysgu.
Drwy weithredu ar awgrymiadau plant, gallwch ddechrau ail-droi’r tueddiad negyddol o ran boddhad plant. Fodd bynnag, mae’r tîm ymchwil o’r farn bod yn rhaid inni ddatblygu a gwerthfawrogi plentyndod fel cymdeithas er mwyn mynd i’r afael o ddifri â’r broblem hon. Mae angen inni roi pwyslais mwy ar les plant, gan wrando’n fwy astud arnynt, ac ystyried ymhellach na’r mesuriadau presennol cul y mae pobl ifanc yn cael eu barnu ar eu sail.