A oes gennych chi gyflwr gwynegol?
Rydym am ddeall blaenoriaethau iechyd y rhai hynny sy’n byw gyda chyflyrau gwynegol a chyhyrysgerbydol a sut y gallai’r rhain amrywio mewn cymunedau gwledig a threfol. I wneud hyn, rydym yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn arolwg fel rhan o brosiect o’r enw RHEUMAPS er mwyn i ni allu nodi’r blaenoriaethau hyn a nodi’r prif wahaniaethau rhwng poblogaethau gwledig a threfol.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr astudiaeth hon yn ein galluogi i wneud argymhellion i gefnogi cynllunio gwasanaethau iechyd.
I gymryd rhan, mae’n rhaid ichi fod dros 18 oed ac wedi cael diagnosis o gyflwr/gyflyrau gwynegol a chyhyrysgerbydol. Bydd yr arolwg yn gofyn cyfres o gwestiynau i’n helpu i ddeall profiadau a blaenoriaethau gofal pobl. Dylai gymryd oddeutu 20 munud i’w gwblhau ac mae modd cael mynediad ato yma.
Os hoffech gwblhau’r arolwg ond nid oes gennych fynediad ato drwy’r ddolen ar-lein, gallwch gyflwyno cais am gopi papur drwy e-bostio rheumap@abdn.ac.uk
Am ragor o wybodaeth am yr astudiaeth, ewch i wefan yr astudiaeth drwy glicio ar y ddolen isod:
Hyd: 01 Mehefin 2020 – 31 Mai 2022 Ariannwr: Sefydliad Nuffield / Versus Arthritis