Ashrafunnesa Khanom, Rebecca Hill, Kelly Morgan, Frances Rapport, Ronan Lyons, Sinead Brophy – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Mae gordewdra mewn plentyndod yn her fawr i iechyd cyhoeddus. Yng Nghymru, canfu’r Rhaglen Mesur Plant Genedlaethol gyntaf, a gyhoeddwyd yn 2013, fod 22% o ddisgyblion dosbarth derbyn (4-5 oed) dros bwysau neu’n ordew.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi codi pryderon ynglŷn â bwyta gormod o fwyd sy’n cynnwys llawer o halen, braster a siwgr, a’r canlyniadau iechyd negyddol tymor hir i blant ac anghydraddoldeb iechyd. Mae ymdrechion i newid ymddygiad dietegol wedi amrywio o ddarparu gwybodaeth a chymhellion ar gyfer ffordd iach o fyw, i fesurau rheoleiddiol fel canllawiau prydau bwyd ysgol, gwell labelu bwyd a chyfyngu ar hysbysebu cynhyrchion bwyd afiach sydd wedi’u bwriadu ar gyfer plant. Fodd bynnag, mae plant yn parhau i weld hysbysebion am fwyd sothach yn ystod adegau pan fydd y teulu’n gwylio’r teledu.
Mae’r lefelau gordewdra presennol yn dangos nad yw addysgu ynglŷn â dewisiadau iach yn sicrhau gwell arferion dietegol o reidrwydd, a bod lefelau gordewdra’n parhau i fod yn uchel. Archwiliodd yr astudiaeth hon y prif rwystrau rhag dewisiadau dietegol sy’n wynebu rhieni â babanod, a’r mathau o ymyriadau ac argymhellion polisi yr hoffai rhieni eu gweld yn cael eu sefydlu i hyrwyddo amgylchedd bwyd iachach.

Yr Ymchwil
Cynhaliwyd 61 cyfweliad â darpar rieni a rhieni plant ifanc (61 mam a 35 tad). Dewiswyd y teuluoedd yn ôl lefelau amddifadedd cymunedol ac roeddent yn samplau cynrychioliadol o gymdogaethau difreintiedig a chefnog.
Y Canlyniadau
- Amlygodd rhieni sbardunau a oedd yn arwain at ddewisiadau dietegol afiach, fel dibynnu ar safleoedd bwyd cyflym o ganlyniad i waith sifft, diffyg mynediad at drafnidiaeth bersonol, ddim yn gallu coginio, eu profiadau dietegol eu hunain pan oeddent yn blant, pwysau gan gyfoedion a pherthnasoedd teuluol.
- Roedd rhieni a oedd yn gwneud dewisiadau dietegol iachus yn dweud eu bod wedi dysgu sgiliau coginio tra oeddent yn y brifysgol, wedi mynd i ddosbarthiadau coginio cymunedol, yn gallu cael gafael ar fwyd o ansawdd da a ddarperir gan sefydliadau eglwysig a chymunedol neu’n gallu cael talebau Cychwyn Iach.
- Roeddent yn galw am gyfyngu ar hyrwyddo bwyd afiach mewn archfarchnadoedd a gwella mynediad at gynnyrch ffres fforddiadwy o ansawdd uchel yn yr ardal leol ac mewn archfarchnadoedd. Mynegwyd neges glir i lunwyr polisi weithio gyda chynhyrchwyr bwyd i leihau costau a thargedu negeseuon bwyta’n iach at boblogaeth amrywiol.
- Awgrymodd rhieni hefyd y dylid gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhatach i alluogi teuluoedd i gael mynediad at gynnyrch o ansawdd gwell ymhellach oddi cartref.
- Dylai hefyd fod mwy o bwyslais ar hyrwyddo bwyta’n iach mewn ysgolion a mwy o ymgysylltu uniongyrchol rhwng rhieni ac ysgolion.
- Yn ogystal, awgrymwyd y gellid defnyddio gweithleoedd i ddarparu gwybodaeth am ffyrdd iach o fyw, a sut i newid ffordd o fyw.
- Argymhellodd rhieni y dylai safleoedd ‘bwyd cyflym’ gael eu cyfyngu, ac y dylai cymdogaethau gael eu cynllunio a’u hadeiladu mewn ffordd sy’n hwyluso mynediad at fwyd lleol, iachus.
- Datgelodd yr astudiaeth yr angen i ddarparu cyngor wedi’i dargedu i dadau a rhieni ethnig lleiafrifol, a gofynnwyd am gyngor a gwybodaeth ymarferol wedi’u teilwra ynglŷn â sut i brynu, paratoi, storio a choginio bwyd, yn ogystal â dosbarthiadau coginio cymunedol a gwell gwersi coginio yn yr ysgol.
- Teimlwyd yn gyffredinol fod angen i’r llywodraeth wneud mwy o ymdrech i wella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith oherwydd bod gwaith sifft yn dylanwadu’n fawr ar deuluoedd a oedd wedi mabwysiadu ymddygiad dietegol afiach.
Yr Effaith
Mae argymhellion yr astudiaeth hon yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i weithwyr iechyd proffesiynol, llunwyr polisi lleol a chenedlaethol, y cyfryngau a’r diwydiant bwyd ynglŷn â’r rhwystrau amrywiol rhag bwyta’n iach sy’n wynebu rhieni. Gellir defnyddio’r canfyddiadau i ymgysylltu â’r cyhoedd, herio achosion anghydraddoldeb o ran deiet, a theilwra gwybodaeth i’r rhai hynny sydd â’r angen mwyaf.