Michael Dennis, Laura Shine, Ann John, Amanda Marchant, Joanna McGregor, Ronan Lyons, Sinead Brophy.
Yr Her
Mae oddeutu 700,000 o bobl yn dioddef o ddementia yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl Cymdeithas Clefyd Alzheimer y DU, mae 90% o bobl sydd â dementia yn profi symptomau ymddygiadol a seicolegol – fel cynnwrf, ymosodedd, rhithdybiau a rhithweledigaethau. Mae cyffuriau gwrthseicotig (amrywiaeth o feddyginiaethau a ddefnyddir i drin mathau o ofid neu anhwylderau meddyliol) yn cael eu rhagnodi’n aml, ac yn amhriodol, i bobl â dementia sy’n profi’r symptomau hyn.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, cafwyd tystiolaeth gynyddol fod perygl uwch o farwolaeth ymhlith pobl hŷn â dementia sy’n defnyddio meddyginiaethau gwrthseicotig. Er bod y pryder hwn, ynghyd â thystiolaeth gyfyngedig o effeithiolrwydd, wedi llywio canllawiau sy’n cyfyngu ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig i bobl hŷn, mae’r defnydd ohonynt yn parhau i fod yn gyffredin.
Mae astudiaethau blaenorol wedi edrych ar ganlyniadau tymor byr a phoblogaethau dethol, ac roeddent wedi’u cyfyngu i archwilio perygl strôc a marwolaeth. Edrychodd yr astudiaeth hon ymhellach yn ôl ac archwiliodd gofnodion electronig sylfaen boblogaeth fawr o bobl hŷn sy’n byw gyda dementia.

Yr Ymchwil
Defnyddiodd yr ymchwil ddata cyffredin cysylltiedig (a oedd yn caniatáu ar gyfer croesgyfeirio ac astudio amryw gofnodion cleifion a digwyddiadau gofal iechyd), ac archwiliodd y berthynas rhwng meddyginiaeth wrthseicotig a chanlyniadau niweidiol difrifol.
Edrychodd yr astudiaeth hon ar ddylanwad amlygiad i feddyginiaeth wrthseicotig ar ddigwyddiadau cardiaidd acíwt (llif gwaed sydyn neu ostyngiad mewn llif gwaed i’r galon), thrombo-emboledd gwythiennol (tolchenni’n ffurfio yn y gwythiennau), strociau, torri’r glun, a phob achos marwolaeth.
Amlygwyd cyfanswm o 9674 o bobl yr oedd 3735 ohonynt wedi cymryd meddyginiaeth wrthseicotig.
Y Canlyniadau
Roedd perygl uwch o ddigwyddiadau thrombo-embolig, strociau a thorri’r glun yn gysylltiedig â defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig. Fodd bynnag, nid oedd cynnydd tymor hir mewn marwolaeth pobl a oedd yn cymryd meddyginiaeth wrthseicotig.
Mae’r cynnydd mewn digwyddiadau meddygol niweidiol yn cefnogi canllawiau sy’n cyfyngu ar ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig ymhlith y boblogaeth hon.
Yr Effaith
Mae defnydd amhriodol o gyffuriau gwrthseicotig yn niweidiol iawn. Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod perygl uwch amlwg o ganlyniadau meddygol niweidiol, yn enwedig thrombo-emboledd gwythiennol, strôc a thorri’r glun, ymhlith pobl hŷn sy’n byw gyda dementia sy’n cymryd meddyginiaethau gwrthseicotig.
Mae lleihau’r defnydd o gyffuriau gwrthseicotig ar gyfer pobl sydd â dementia yn elfen allweddol o Gynllun Dementia Cymru ac yn flaenoriaeth genedlaethol yn Lloegr.
Mae’r risgiau a amlygir yn yr astudiaeth hon yn cefnogi argymhellion sy’n cyfyngu ar ddefnydd o feddyginiaeth wrthseicotig heb fod mewn argyfwng gan bobl sydd â dementia i’r rhai hynny sydd â seicosis neu ymosodedd difrifol pan fydd cynlluniau triniaeth eraill nad ydynt yn ffarmacolegol wedi methu.