Y Tîm Ymchwil
Dr Rosemary Hollick, Darlithydd Clinigol Hŷn mewn Rhiwmatoleg, Prifysgol Aberdeen.
Yr Athro Ernest Choy, Athro Clinigol, Prifysgol Caerdydd (NCPHWR).
Dr Mark Atkinson, Swyddog Ymchwil, Prifysgol Abertawe (NCPHWR).
Mae angen diagnosis ar y bobl hynny sy’n dioddef o glefyd rhiwmatig a chyhyrsgerbydol ac mae’n rhaid iddyn nhw gael eu trin yn gyflym wedi iddyn nhw sylwi ar y symptomau am y tro cyntaf. Mae llwyddiant y driniaeth a’u hiechyd yn y tymor hir yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar hyn. Ar gyfer y bobl hynny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (hyd at draean o boblogaeth y DU), nid yw gwasanaethau meddyg teulu ac ysbyty bob tro mor hawdd i’w cyrchu mewn ardaloedd gwledig ag y maen nhw mewn trefi a dinasoedd ac mae’n bosibl y bydd oedi o ran y diagnosis a’r driniaeth oherwydd hyn. Hyd yn hyn nid yw’r effaith mae hyn yn ei chael ar bobl sy’n dioddef o’r cyflyrau hyn wedi bod yn destun ymchwil manwl.