Y sefyllfa bresennol yng Nghymru
Yn 2018, dechreuodd Llywodraeth Cymru adolygu’r polisi prydau ysgol am ddim oherwydd y gydnabyddiaeth bod y polisi presennol yn methu â bodloni pob plentyn mewn tlodi incwm cymharol.
O fis Medi 2022, caiff prydau ysgol am ddim cyffredinol i bob plentyn ysgol gynradd eu cyflwyno fesul cam, gan ddechrau gyda’r blynyddoedd ieuengaf. Erbyn 2024 bydd pob plentyn oed ysgol gynradd yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Yr Astudiaeth Achos Bwyd Ysgol: Cymru
Fe wnaeth y World Food Programme (UK) a’r Research Consortium for School Health and Nutrition wahodd Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth i arwain y gwaith o gynhyrchu astudiaeth achos o system prydau ysgol Cymru. Mae’r Consortiwm Ymchwil yn hwyluso cydweithrediad rhwng partneriaid academaidd, ymchwil a datblygu i lenwi’r bwlch gwybodaeth byd-eang mewn iechyd a maethiad ysgolion. Mae’n adeiladu sylfaen dystiolaeth i arwain llunwyr polisi a gweithredwyr rhaglennu.
Rhan o ymagwedd y DU a Byd-eang at Fwyd Ysgol
Mae astudiaeth achos Cymru yn rhan o astudiaeth DU gyfan sy’n cwmpasu rhaglenni prydau ysgol y wlad ddatganoledig. Bydd astudiaethau achos y DU hefyd yn cyfrannu at y llyfrgell fyd-eang o astudiaethau achos sy’n cael eu datblygu ar gyfer y Gynghrair Prydau Ysgol.
Cyflwynwyd yr astudiaethau achos o bedair gwlad ddatganoledig y DU mewn cyfarfod yn Llundain ar 17 Tachwedd 2022. Gweler crynodeb o Brydau Ysgol y DU yma.
Prosiect parhaus
Mae’r blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i bob maes o ddysgu a datblygiad plentyn. Gall mynediad at brydau ysgol am ddim helpu i leihau anghydraddoldebau a sicrhau bod plant, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm is, yn gallu cael pryd iach y dydd.
Bydd y Ganolfan yn parhau i weithio gyda phartneriaid o wledydd datganoledig eraill ac yn fyd-eang ar drawsddysgu a rhannu gwybodaeth. Bydd ein hymchwilwyr yn ceisio gwerthuso’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim a’r manteision i iechyd a llesiant plant.
Er mwyn cyflawni ein hymchwil, bydd y Ganolfan yn gweithio gyda sefydliadau a rhwydweithiau eraill, megis y HAPPEN Primary School Network a’r GENIUS School Food Network, i gyrraedd a chasglu gwybodaeth gan ysgolion ar draws Cymru.