Yr Her
Mae ymchwilwyr yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i’w helpu i archwilio a mynd i’r afael â chwestiynau ymchwil allweddol. Mae dulliau meintiol yn mesur, dadansoddi ac yn cynhyrchu canlyniadau rhifol, tra bod dulliau ansoddol yn archwilio anghenion, ymddygiad, barn a phrofiadau pobl gan ddefnyddio dulliau fel cyfweliadau a grwpiau ffocws er mwyn creu naratif i’w ddadansoddi. Hefyd, gall dulliau ansoddol archwilio pa mor llwyddiannus y mae ymyriadau’n cael eu cyflwyno, a ph’un a ydynt yn gweithio fel y bwriadwyd iddynt weithio.
Mae synthesisau tystiolaeth ansoddol yn cyfuno ac yn dadansoddi, ac weithiau’n trawsnewid tystiolaeth o astudiaethau ansoddol er mwyn creu canfyddiadau wedi’u syntheseiddio. Mae’n llai cyffredin i synthesisau tystiolaeth ansoddol lywio datblygiad canllawiau. Nid yw datblygwyr canllawiau’n gwybod faint o hyder y dylid ei roi ym mhob canfyddiad ansoddol wedi’i syntheseiddio.

Yr Ateb: Dull Cam Wrth Gam i Ymchwilwyr a Datblygwyr Canllawiau
Mae dull GRADE-CERQual (‘Hyder yn Nhystiolaeth Adolygiadau o Ymchwil Ansoddol’) yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddefnyddio’r synthesisau hyn trwy ddangos faint o hyder y dylent eu gosod ym mhob canfyddiad.
Mae’r Grŵp Prosiect GRADE-CERQual wedi cael ei sefydlu er mwyn cefnogi datblygiad y dull CERQual (https://www.cerqual.org/). Mae’r grŵp wedi llunio cyfres o saith o bapurau wedi’u cyhoeddi yn ‘Implementation Science’ sy’n tywys y darllenydd trwy’r dull GRADE-CERQual fesul cam.
Yn ogystal ag esbonio sut cafodd y dull ei greu a’i ddatblygu, nod y papurau yw darparu arweiniad ar sut i ddefnyddio’r dull, sut i gyrraedd asesiad cyffredinol o hyder, a sut i gyflwyno canfyddiadau allweddol ac asesiadau hyder.
Yn bennaf, bwriedir i’r gyfres fod ar gyfer y rhai sy’n gwneud synthesisau tystiolaeth ansoddol neu’n defnyddio eu canfyddiadau mewn prosesau gwneud penderfyniadau, ond mae hefyd yn berthnasol i asiantaethau datblygu canllawiau, ymchwilwyr ansoddol cynradd ac ymarferwyr a gwyddonwyr cyflenwi.


Yr Effaith
Mae dull GRADE-CERQual eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn canllawiau a grëwyd gan sefydliadau fel Sefydliad Iechyd y Byd, y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol yn y DU, Cyngor Sweden ar Asesu Technoleg Iechyd, a Menter y Comisiwn Ewropeaidd ar Ganser y Fron.
Mae datblygwyr canllawiau wedi ardystio’r dull ac wedi ymgorffori CERQual yn eu prosesau. Gwneir penderfyniadau mewn ffordd wahanol bellach, gan gynnwys tystiolaeth ansoddol er mwyn mynd i’r afael â chwestiynau penodol na ellir eu trin gyda thystiolaeth feintiol yn unig.
Yn bwysig iawn, mae’r gyfres o bapurau yn cynorthwyo defnyddwyr CERQual yn fyd-eang, ac yn darparu gwybodaeth gam wrth gam iddynt ar sut i ddefnyddio’r dull. Bydd y cymorth hwn, felly, yn helpu’r rhai sy’n creu adolygiadau ac yn datblygu canllawiau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol yn amlach ac mewn ffordd fwy priodol.