

Mae’r Athro Shantini Paranjothy a Dr Shang-Ming Zhou yn siarad am ychydig o’u hymchwil ynghylch atal, ac yn esbonio pam mae cefnogi iechyd mamol a babanod mor bwysig i leihau anghydraddoldebau iechyd babanod, a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod.
Yr Athro Shantini Paranjothy, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Caerdydd
Uchafbwynt atal
Mar fy ymchwil yn canolbwyntio ar annog beichiogrwydd iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd babanod. Yn ddiweddar, fe wnaeth ein tîm weithio ar astudiaeth gydweithredol dan arweiniad tîm ym Mhrifysgol Bryste, ac roedd canfyddiadau’r astudiaeth o bwysigrwydd cenedlaethol arwyddocaol, gan yr oeddent yn darparu’r arwydd cyntaf o raddfa anhwylder syndrom alcohol ffetws (FASD) yn y DU. Gall y cyflwr arwain at anawsterau dysgu ac ymddygiad ac, mewn rhai achosion, gall arwain at annormaleddau corfforol mewn babanod – a chaiff ei achosi gan yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd. Fe wnaethon ni ddadansoddi data ar 13,495 o blant, a chanfod bod hyd at 79 y cant o’r sampl wedi bod yn agored i alcohol yn ystod beichiogrwydd, a bod 17 y cant o’r plant hyn wedi sgrinio’n gadarnhaol ar gyfer symptomau o FASD.
Mae FASD yn bryder iechyd cyhoeddus arwyddocaol ac mae ein hymchwil yn amlygu maint y broblem, a’r angen i wneud newidiadau i bolisi ac arfer er mwyn lleihau nifer y babanod â FASD, a darparu gofal gwell wrth i’r plant hyn dyfu’n oedolion.
Dr Shang-Ming Zhou, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Mae gweithgarwch corfforol yn bwysig ym mhob cam o fywyd, ac mae astudiaeth ddiweddar, fe wnaethon ni olrhain gweithgarwch corfforol 141 o fabanod 12 mis oed (77 bachgen a 64 merch) gan ddefnyddio mesuryddion cyflymu, yr oeddent yn eu gwisgo ar eu pigyrnau am wythnos. Fe wnaethon ni edrych ar ba mor egnïol oedd y plant yn ystod y dydd ac yn y nos. Fe astudiom bethau fel pwysau, dyddiaduron deiet, a chofnodion meddygol yn ystod beichiogrwydd y fam, yn ogystal â chofnodion geni a meddyg teulu’r babanod.
Yn gyffredinol, dangosodd yr ymchwil bod cael y dechrau cywir yn golygu bod ymddygiadau iachus eraill yn dod i’w lle yn haws. Yn gyffredinol, fe wnaethon ni ganfod bod babanod egnïol yn iachus, bod eu pwysau’n dda, a’u bod nhw wedi cael eu geni ar ôl cael eu cario i’w hamser. Hefyd, roedd y babanod mwy o faint a oedd wedi cael eu geni ar ôl cael eu cario i’w hamser yn fwy egnïol.
Fe wnaethon ni ganfod bod deiet yn ffactor bwysig o ran bod yn blentyn egnïol. Roedd y plant a oedd yn cael eu bwydo ar y fron a’r rheiny a oedd yn bwyta mwy o lysiau yn fwy egnïol. Roedd gan y babanod a oedd yn llai egnïol ddeiet tebycach i un oedolyn, gan gynnwys sudd yn lle llaeth, a chreision i oedolion. Yn ogystal â gwella eu lefelau gweithgarwch, mae mabwysiadu ymddygiadau bwyta’n iach, fel bwyta mwy o lysiau, ar yr oedran hwn yn debygol o barhau trwy eu hoes hefyd. Mae hyn, wedi’i gyfuno â chanfyddiad arall bod babanod sy’n cael eu geni cyn amser, sydd ddim yn magu pwysau ar ôl cael eu geni, yn symud llai, hefyd yn awgrymu y dylid bwydo babanod cyn amser a babanod â phwysau geni isel ar y fron am yn hwy, a bod deiet iach o laeth a llysiau yn bwysicach fyth iddyn nhw. Fe wnaethon ni hefyd ganfod bod babanod egnïol yn cysgu’n well na babanod llai egnïol. Mae hyn yn awgrymu y gallai annog gweithgarwch gael effaith ar wella ymddygiadau eraill, fel arferion cysgu da. Mae’r ymchwil hon yn amlygu’r effaith y gall deiet a chwsg da ei chael ar ddatblygiad plentyn, a gall adeiladu sylfaen iachus ar gyfer iechyd a lles hyd oes.
Mae datblygu strategaethau atal yn dibynnu at ddealltwriaeth glir o’r ffactorau risg ar gyfer y deilliannau. Mae dysgu peirianyddol a thechnegau dadansoddi rhagfynegol yn chwarae rolau hanfodol mewn amlygu ffactorau risg ar gyfer atal yn ein hymchwil.
Cliciwch y llun isod i ddarllen yr erthygl nesaf sy’n canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar: