

Gan Dr Michaela James, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, cyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Hydref Plant yng Nghymru.
Mae Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang yng nghyd-destun hawliau plant; mae deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a pholisi ynghylch chwarae (e.e. Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae) wedi rhoi plant yn ganolog – creu mwy o ymwybyddiaeth ynghylch angen cymunedau i weithio er iechyd a llesiant pobl ifanc. Mae hyn, ar y cyd ag ymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), wedi creu chwyldro distaw ond dwys – un sydd â’r potensial i ail-lunio tirlun ymchwil, polisi ac, yn anad dim, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc.
Yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, mae cydgynhyrchu yn hanfodol i’n hymchwil. Gall cydgynhyrchu ymchwil gyda phobl nad ydynt yn ymchwilwyr ond sydd â budd yn y prosiect, helpu i wreiddio’r ymchwil, gwella ansawdd yr ymchwil a chynhyrchu deilliannau ystyrlon a newidiadau cadarnhaol i’r gymuned.
Mae ein cydgynhyrchu’n defnyddio dull wedi’i seilio ar hawliau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar Erthygl 12, sy’n galw am i blant (hyd at 18 oed) gael hawl i gael eu clywed a’u cymryd o ddifri o ran pob mater sy’n effeithio arnyn nhw, a’r hawl i gasglu a defnyddio mannau cyhoeddus (Erthygl 15). Caiff hyn ei ategu ymhellach gan Erthygl 31 ac Ymrwymiad Cyffredinol 17, sy’n cyfeirio at yr hawl i gael mannau i ymlacio, chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a bywyd diwylliannol ynddynt.
Mae RPlace yn un prosiect o’r fath sydd â chydgynhyrchu yn ganolog iddo. Dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod am fod yn weithgar yn eu cymuned leol, ond maent yn teimlo bod diffyg cyfleusterau y maen nhw eu heisiau, eu bod yn costio gormod, neu eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt yn y mannau hyn. Yn ogystal â hyn, dywedant wrthym fod gormod o draffig, gormod o sbwriel ac, weithiau, nad ydynt yn teimlo’n ddiogel. Roeddem am roi llais i bobl ifanc wneud newidiadau yn eu cymuned leol i oresgyn y rhwystrau hyn. O ganlyniad, datblygodd ein tîm ‘RPlace’, sef ap symudol lle y gallant adolygu eu hardaloedd lleol i helpu grymuso pobl ifanc ac eiriol dros eu dymuniadau a’u hanghenion i helpu gwneud newidiadau i’r mannau lle maen nhw’n byw, yn chwarae ac yn mynd i’r ysgol. Datblygwyd yr ap o ganlyniad i ganfyddiadau’r Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN ac ACTIVE (prosiect oedd â’r nod o wella ffitrwydd ac iechyd calonnau pobl ifanc yn eu harddegau yn Abertawe trwy ymyrraeth aml-elfen), ochr yn ochr â chydweithrediad cadarn â Chwarae Cymru. Bydd yr adolygiadau gan bobl ifanc a gasglwyd gan Ap RPlace yn cael eu rhannu gyda sefydliadau (er enghraifft, cynghorau lleol) i wneud lleoedd yn fwy diogel, yn fwy amgylcheddol gyfeillgar ac yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.
Mae NCPHWR hefyd yn gweithio gyda phartneriaid fel Llesiant Rhieni Sengl ar eu Maniffesto Iechyd Meddwl (prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol). Y nod gyffredinol a’r canlyniad a ddymunir yw y bydd pobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi rhiant sengl yn deall pwysigrwydd a gwerth gofalu am eu hiechyd meddwl a’u llesiant ac y bydd ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau (emosiynol ac ymarferol) i wneud hynny trwy gydgynhyrchu adnoddau ac arbenigedd gyda’u cymheiriaid ac ar gyfer eu cymheiriaid. Bydd hyn yn grymuso cenhedlaeth iachach yn feddyliol yn y dyfodol sy’n teimlo’n hyderus i fanteisio ar gyfleoedd a gweithredu er mwyn symud ymlaen a gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywyd, gan ddylanwadu ar eu cymunedau ac ar ddatblygiad ehangach polisi.
O ganlyniad i’r prosiectau cydgynhyrchu hyn ynghyd â’n gwaith ar brosiect Ganwyd yng Nghymru (sy’n ymgymryd ag ymchwil ac arolygon gyda rhieni beichiog a rhieni newydd i helpu deall yn well sut orau i gefnogi plant a theuluoedd sy’n byw yng Nghymru), mae NCPHWR wedi datblygu CORDS (Cydgynhyrchu Cyfeiriad a Strategaeth Ymchwil). Nod CORDS yw darparu rhywfaint o eglurder ar sail tystiolaeth ac enghreifftiau o brosiectau blaenorol a gydgynhyrchwyd gydag aelodau’r cyhoedd ac a ddatblygwyd gan NCPHWR. Mae ein canllaw arfer gorau ar gyfer cydgynhyrchu yn cydnabod na ddylai fod yn ddull ‘unffurf’; yn hytrach, gall sefyll o fewn gwerthoedd craidd a all helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad a chadw buddion pennaf y boblogaeth yn flaenllaw ar yr un pryd. Mae’r buddion hyn yn cynnwys i) cynwysoldeb, ii) hyblygrwydd, iii) dilysrwydd a v) myfyrdod.
Yn unol ag esblygiad polisi Cymru, mae NCPHWR yn pwysleisio pwysigrwydd gorfodi a chydnabod hawliau plant yng Nghymru, yn enwedig ochr yn ochr ag Erthyglau 12 a 15. Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth ym mywyd plant Cymru, gan effeithio ar bopeth o addysg i ofal iechyd a’r tu hwnt. Dylai plant gael dweud eu dweud am faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Nid yn unig y mae eu safbwyntiau, eu mewnwelediadau a’u breuddwydion yn cael eu clywed, maent yn cael eu hintegreiddio i bolisïau ac ymarfer sydd â’r potensial i greu dyfodol tecach, mwy disglair i bawb.
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.