

Mae COVID-19 yn gysylltiedig â risg gynyddol o salwch ôl-firaol, blinder, emboledd, iselder, gorbryder a chyflyrau anadlol, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad tîm Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd a Lles y Boblogaeth sydd wedi’i lleoli yn adran Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe.
Wrth i’r pandemig barhau, mae pryderon cynyddol ynghylch y symptomau hirdymor mae pobl sydd wedi cael COVID-19 yn eu profi. Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil i COVID hirdymor a’i effaith ar ofal iechyd.
Ynglŷn â’r astudiaeth
Roedd yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd ym MedRxiv, yn ceisio canfod a oedd profi’n bositif am COVID-19 wedi arwain at fwy o ddefnydd o ofal sylfaenol ac eilaidd yn ystod y chwe mis cyntaf yn dilyn y prawf o’i gymharu â’r rhai nad oeddent wedi profi’n bositif.
Cymhariaeth gadarn
Defnyddiodd yr astudiaeth hon baru tueddol, sef techneg sy’n ceisio lleihau rhagfarn ac annhegwch mewn ymchwil. Gan ddefnyddio’r dechneg hon, roedd yr astudiaeth yn paru pobl a brofodd yn bositif am COVID gyda phobl â nodweddion tebyg megis rhyw, oedran ac ardal awdurdod lleol, nad oeddent wedi profi’n bositif am COVID – gan greu grŵp cymharu cadarn.
Defnyddiodd yr astudiaeth y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yng Nghymru, sy’n cynnwys data meddygon teulu cenedlaethol, cofnodion cleifion mewnol ac allanol ysbytai, a chofnodion marwolaeth a gesglir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Astudiodd y tîm ddata dros 41,000 o unigolion sy’n byw yng Nghymru a brofodd yn bositif am COVID rhwng 28/02/20 a 26/08/21. Rhoddodd yr ymchwilwyr sylw i gyswllt â gofal iechyd yn ystod 1-4 wythnos, a 5-24 wythnos ar ôl cael prawf COVID-19 positif.
Y canlyniadau
O’u cymharu â phobl â phrawf negatif, roedd unigolion â phrawf positif:
- 212% yn fwy tebygol o farw yn ystod y 4 wythnos gyntaf.
- 28% yn llai tebygol o farw rhwng wythnos 5 a 24 pan gânt eu profi yn y gymuned ond, yn 22% yn fwy tebygol o farw pan gânt brawf positif yn yr ysbyty.
- 204% yn fwy tebygol o gael nodyn salwch yn ystod y 4 wythnos gyntaf os cânt eu profi yn y gymuned.
- 17% yn llai tebygol o fynychu lleoliad gofal iechyd ar gyfer gorbryder neu iselder yn ystod y 4 wythnos gyntaf. Fodd bynnag, roedd unigolion â phrawf positif yn yr ysbyty 20% yn fwy tebygol o geisio cymorth ar gyfer gorbryder ac iselder rhwng wythnos 5 a 24.
- Yn fwy tebygol o geisio gofal iechyd ar gyfer salwch ôl-feirysol (365%), blinder (65%), ac emboledd (50%) ar ôl 5 wythnos os cânt eu profi yn y gymuned.
Er gwaethaf y cyswllt cryf a ganfuwyd rhwng profi’n bositif am COVID a defnyddio gofal iechyd yn y tymor byr a’r tymor hir, roedd nifer gyffredinol yr unigolion a oedd yn mynychu lleoliad gofal iechyd yn isel iawn. Serch hynny, ni all yr astudiaeth fesur anghenion pobl sydd â salwch sy’n gysylltiedig â COVID ond na wnaethant geisio gofal iechyd.
Deall yr effeithiau hirdymor
Meddai Jon Kennedy, yr Ymchwilydd Arweiniol a Dadansoddwr Data yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth:
“Nid oes neb yn deall COVID hir yn dda. Felly, mae ymchwil yn y maes hwn yn hanfodol er mwyn deall effeithiau’r clefyd.
Mae ein canfyddiadau’n dangos bod cyfran sylweddol uwch o bobl a oedd â COVID-19 yn dioddef o salwch hirdymor fel blinder, clefyd ôl-feirysol, ac emboledd, o’u cymharu â’r rhai na chawsant eu heintio.
Yn seiliedig ar ein canfyddiadau, rydym yn argymell bod pobl, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed, yn parhau i amddiffyn eu hunain rhag COVID-19 ac effeithiau hirdymor y clefyd.”
Darllen y rhagbrint llawn yma.
Roedd yr ymchwil hwn yn gydweithrediad rhwng y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (Prifysgol Abertawe), Datalab (Adran Gwyddor Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield), Ysgol Feddygol Bryste (Prifysgol Bryste), y Sefydliad Gwybodeg Iechyd (UCL Llundain) ac Uned Gwyddorau Cymdeithasol a Chyhoeddus MRC (Prifysgol Glasgow).
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.