

Mae’r astudiaeth ‘Ganwyd yng Nghymru’ yn ceisio deall yn well sut i leihau nifer y genedigaethau cyn amser a babanod â phwysau isel, a helpu plant i gael y dechrau gorau yn eu bywydau. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried digwyddiadau mewn bywyd, gan gynnwys bywyd gwaith a’r straen ar fenywod beichiog a’u partneriaid. Mae’n gysylltiedig ag iechyd, yr ysgol a data eraill er mwyn deall yn well sut mae sefyllfa’r teulu yn gallu effeithio ar flynyddoedd cynnar plant, gyda nod o ddarparu tystiolaeth ynghylch yr hyn sy’n gweithio i gefnogi plant a theuluoedd o’r cychwyn cyntaf. Gall canfyddiadau’r astudiaeth hon helpu i hysbysu teuluoedd, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a llunwyr polisi ynghylch y ffordd orau o gefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau i blant yn eu bywydau.
Profiadau mamau sy’n feichiog yn ystod COVID-19
Mae canlyniadau’r arolwg yn datgelu bod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar fenywod beichiog. Mae menywod wir wedi gweld eisiau cael cyswllt wyneb yn wyneb â bydwragedd, ac maent yn teimlo bod y cyfyngiadau wedi creu profiad anodd o fod yn feichiog.
“Mae’r holl gyfyngiadau wedi gwneud pethau’n llawer mwy anodd, ac mae’r diffyg cymorth yn ystod apwyntiadau a sganiau (oherwydd nad yw partneriaid yn cael bod yno) wedi bod yn anodd dros ben”.
“Llai o apwyntiadau na’r arfer, a llawer o waith dyfalu a chwilio drwy Google ar fy rhan i”.
Sut gallwch chi helpu?
Byddai ein tîm ymchwil wir yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth roi gwybod am yr astudiaeth i rieni beichiog.
Hoffem rannu ein canfyddiadau ymchwil â chi drwy ein sianelu cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyron Ganwyd yng Nghymru. Hefyd, rydym am ofyn i chi pa wybodaeth y dylem ei chasglu yn eich barn chi, a pha wybodaeth fyddai’n werthfawr i chi?
Hoffem glywed gennych chi
Ein nod yw datblygu sgwrs dwy-ffordd â bydwragedd, a hoffem ofyn a fyddech yn rhannu â ni feysydd o ddiddordeb yr hoffech i ni eu harchwilio fel rhan o’r astudiaeth. Rydym am ofyn y cwestiynau sy’n bwysig i chi er mwyn helpu i wella mamolaeth ar gyfer teuluoedd a bydwragedd.
Meddai’r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth: … Hoffem ni allu gweithio gyda chi er mwyn gwella’r sylfaen dystiolaeth ynghylch yr hyn sy’n gweithio i wella iechyd a lles ar gyfer teuluoedd a phlant a anwyd yng Nghymru.
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Mae ein grŵp Facebook Ganwyd yng Nghymru yn lle inni rannu canfyddiadau ein hymchwil a gofyn am eich profiadau. Rydym yn eich annog i ymuno â’n trafodaethau yn y grŵp a rhannu gwybodaeth a allai fod o fudd i aelodau’r grŵp yn eich tyb chi. Diolch yn fawr.
Bydwragedd, dysgwch fwy am yr astudiaeth a sut y gallwch chi gymryd rhan, derbyn rhagor o wybodaeth, gofyn cwestiwn, neu dderbyn pecynnau gwybodaeth.