

Ers dechrau’r pandemig, mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth wedi addasu a chyflwyno ymchwil er mwyn ymateb i COVID-19, gan fanteisio ar allu ymchwil y Ganolfan i helpu i lywio penderfyniadau. Un o brosiectau’r Ganolfan a addaswyd er mwyn ymateb i’r pandemig fu’r astudiaeth ‘Ganwyd yng Nghymru’.
Astudiaeth i gefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau i’w plant mewn bywyd
Sefydlwyd yr astudiaeth ym mis Medi 2020 i helpu i lywio gwelliannau iechyd, addysg a lles i bob plentyn yng Nghymru. Mae Ganwyd yng Nghymru yn ceisio cyflawni hyn drwy ddatblygu tystiolaeth i deuluoedd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polisi o’r ffordd orau i gefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau i’w plant mewn bywyd.
Deall profiadau darpar rieni yn ystod y pandemig
Mae bod yn feichiog yn ystod y pandemig Covid-19 wedi bod yn brofiad ingol a heriol, gyda mamau’n wynebu pryderon o ran eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu babanod heb eu geni. Fodd bynnag, ni chynhaliwyd llawer o waith ymchwil i ddarganfod profiadau unigryw mamau beichiog a’u partneriaid yn ystod y cyfnod hwn.
Aeth tîm ‘Ganwyd yng Nghymru’ ati i fynd i’r afael â hyn drwy addasu’r astudiaeth, gan ddefnyddio cwestiynau wedi’u targedu i helpu i ddeall profiadau o feichiogrwydd yn ystod y pandemig.
Llenwodd mamau beichiog arolwg ar-lein am eu profiad o feichiogrwydd yn ystod y pandemig. Cysylltodd y tîm ymchwil atebion y cyfranogwyr yn ddienw â data iechyd i amlygu a oedd babanod a anwyd yn 2020 yn wahanol i fabanod a anwyd cyn y pandemig.
Datgelodd yr arolwg themâu cyffredin, fel yr amgyffrediad o ddifrifoldeb y pandemig, y gwahaniaeth rhwng apwyntiadau rheolaidd ac esgor, a chysylltiad â bydwragedd.
“Rydw i’n teimlo’n eithaf pryderus, yn unig ac ar fy mhen fy hun â’m pryderon am y coronafeirws ar hyn o bryd, ac yn teimlo fy mod i a’m baban yn agored i niwed .”
“Mae’r holl gyfyngiadau wedi gwneud pethau’n anoddach o lawer, ac mae’r diffyg cefnogaeth mewn apwyntiadau a sganiau wedi bod yn anodd dros ben”.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod y pandemig wedi cael effaith negyddol sylweddol ar iechyd meddwl mamau beichiog, a chrybwyllodd y mwyafrif ohonynt eu bod yn teimlo’n bryderus, yn unig ac yn ofnus, sy’n cael effaith emosiynol negyddol ar fenywod beichiog. Arweiniodd pryderon iechyd, gorfod profi sganiau ac esgor ar eu pen eu hunain, a’r cysylltiad lleiaf â bydwragedd at brofiadau anodd i feichiogrwydd.
Fodd bynnag, roedd y data’n dangos nad yw babanod a anwyd yn ystod y pandemig COVID-19 yn dangos unrhyw anfantais na chanlyniadau niweidiol o gymharu â babanod a anwyd cyn y pandemig, o ran pwysau geni a ph’un a gawsant eu geni ar ôl eu cario i’w hamser ai peidio. Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu efallai y bu llai o enedigaethau cynamserol yn ystod yr ail gyfnod clo, ac ychydig yn fwy o enedigaethau hwyr yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys dadansoddiad dilynol yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd i archwilio a oes gan straen yn ystod beichiogrwydd a newidiadau parhaus y pandemig unrhyw ganlyniadau tymor hwy i’r baban a’r teulu.
Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth
“Gall iechyd, lles a bywyd teuluol yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod blwyddyn gyntaf bywyd effeithio ar iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Mae’n hanfodol cefnogi iechyd da rhieni a datblygiad cadarnhaol yn ystod y flwyddyn gyntaf ac, yn bwysig, yn ystod y pandemig.
Mae ein hymchwil wedi datgelu pryderon cyffredin sydd wedi effeithio ar iechyd a lles mamau beichiog.
Gall y canlyniadau hyn gael eu defnyddio i roi gwybod i fydwragedd a nyrsys am brofiadau o fod yn feichiog yn ystod COVID, a’r ffordd orau i gefnogi menywod a theuluoedd ar ôl y profiad hwn.”
Mae astudiaeth Ganwyd yng Nghymru eisiau ymgysylltu â Mamau a phartneriaid disgwyliedig. Am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth sy’n mynd rhagddi, ewch i wefan y Ganolfan – https://ncphwr.org.uk/cy/portfolio/born-in-wales