

Mae’r ‘Blynyddoedd Cynnar a Phrofiadau Andwyol mewn Plentyndod’ yn faes gwaith hollbwysig ar gyfer Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth. Nod ein gwaith yn y maes hwn yw helpu i roi dechrau iach a diogel mewn bywyd i blant.
Ceir tystiolaeth sylweddol bod profiadau unigolyn mewn plentyndod yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio ei ddyfodol – ac mae datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd ac addysg da yn ystod plentyndod a chanlyniadau iechyd a chyflogaeth gwell wrth fod yn oedolyn.
Yn y postiad blog hwn, gwnaethom siarad ag Amrita Bandyopadhyay a Becky Amos er mwyn dysgu rhagor am yr hyn y gwnaeth eu hysbrydoli i fod yn ymchwilwyr, a pham gwnaethant benderfynu canolbwyntio ar ymchwil i Brofiadau Andwyol mewn Plentyndod.
Amrita Bandyopadhyay, ymchwilydd Blynyddoedd Cynnar a Phrofiadau Andwyol mewn Plentyndod yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth, ym Mhrifysgol Abertawe.

Amrita Bandyopadhyay
Pryd a sut gwnaethoch benderfynu eich bod am fod yn ymchwilydd?
Ymunais â Phrifysgol Abertawe yn gyntaf yn 2013, fel Dadansoddwr Data. Fel Dadansoddwr Data, roedd fy ngwaith ar y cyfan ar ochr dechnegol ymchwil. Fodd bynnag, dechreuais weithio ar sawl prosiect ymchwil a oedd yn canolbwyntio ar blant sy’n agored i niwed a bywyd cynnar, a gwnaeth hynny fy nghyflwyno i’r llenyddiaeth academaidd helaeth yn y maes hwn. Gwnaeth hyn sbarduno diddordeb ac awydd newydd i weithio yn y maes hwn, ac roedd fy nghefndir fel dadansoddwr data yn golygu i mi symud yn naturiol tuag at faes epidemioleg.
Ar hyn o bryd, rwy’n ymchwilydd Blynyddoedd Cynnar a Phrofiadau Andwyol mewn Plentyndod i’r Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth.
Beth gwnaeth eich denu at ymchwil i Brofiadau Andwyol mewn Plentyndod?
Mae gweithio i’r Ganolfan yn rhoi’r cyfle i mi weithio gyda data sydd wedi’u storio ym Manc Data SAIL. Mae SAIL yn casglu data am y boblogaeth ac iechyd yn rheolaidd – gan ddarparu data dienw sy’n seiliedig ar yr unigolyn ar gyfer ymchwil a dadansoddi.
Mae’r gallu i gysylltu ac archwilio data am enedigaethau, iechyd, addysg a data demograffig o gyfnod beichiogrwydd, adeg geni plant, y blynyddoedd cynnar a phlentyndod hyd at fod yn oedolyn, yn ein galluogi i edrych yn ddyfnach ar ffactorau risg ar gyfer atal Profiadau Andwyol mewn Plentyndod. A phan gaiff hyn ei gyfuno â dadansoddeg data a thechnegau dysgu peirianyddol o’r radd flaenaf, mae’n rhoi ymagwedd at nodi risgiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn llywio ac yn effeithio ar benderfyniadau polisi, ac mae ganddo’r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn.
Oes maes ymchwil penodol mewn Profiadau Andwyol mewn Plentyndod sydd o ddiddordeb i chi?
Rydym ni’n gwybod o’r ymchwil bresennol bod Profiadau Andwyol mewn Plentyndod yn effeithio’n negyddol ar iechyd, addysg, a chyflogaeth y plentyn a’i ganlyniadau yn hwyrach yn ei fywyd. Y maes Profiadau Andwyol mewn Plentyndod sydd o ddiddordeb penodol i fi yw ‘gwytnwch’ – a defnyddio canfyddiadau ein hymchwil i helpu plant i feithrin cadernid er mwyn iddynt allu torri’r cylch a lleihau effeithiau niweidiol Profiadau Andwyol mewn Plentyndod.
Beth ydych chi am ei gyflawni yn eich gyrfa?
Rydw i am i’r ymchwil rwy’n rhan ohoni wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl y mae ei hangen arnynt fwyaf. Rydw i’n awyddus i sicrhau y bydd y bobl a’r rhan o’r gymuned o le daeth y data yn derbyn adborth am ein gwaith ymchwil. Felly, rydw i’n frwdfrydig iawn am ymchwil sy’n mynd y tu hwnt i’r byd academaidd ac yn effeithio’n gadarnhaol ar bobl a chymunedau.
Pan nad ydych chi’n gweithio, beth rydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser rhydd?
Rydw i’n ddawnsiwr ac yn hyfforddwr dawnsio yn fy amser rhydd. I fi, mae dawnsio’n gyfle i bobl ifanc ddysgu sgil newydd – mae’n ffordd ardderchog o gael hwyl a hybu lles, ac yn anad dim, gyflwyno pobl ifanc i ffurf gelf. Gall helpu i ddatblygu rhyngweithiadau cadarnhaol yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol. Mae’r hyn rydw i’n ceisio ei gyflawni wrth addysgu plant ifanc i ddawnsio yn debyg iawn i’r hyn rydw i’n ceisio ei gyflawni drwy fy ngwaith ymchwil – sef y cyfle i wneud gwahaniaeth ac effeithio’n gadarnhaol ar fywyd person ifanc.
Becky Amos, ymchwilydd Blynyddoedd Cynnar a Phrofiadau Andwyol mewn Plentyndod yn y Ganolfan ar gyfer Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Becky Amos
Pryd a sut gwnaethoch benderfynu eich bod am fod yn ymchwilydd?
Y tro cyntaf i mi ystyried bod yn ymchwilydd ac yn seicolegydd oedd yn yr ysgol uwchradd. Roeddwn i’n 16 oed ac yn darllen am brofion seicolegol mewn llyfr yn y llyfrgell, ac roedd gen i ddiddordeb mewn pa mor arloesol y mae methodolegau. Roeddwn i bob amser am fod yn wyddonydd o ryw fath, ac roeddwn i’n frwdfrydig iawn am seicoleg ac roeddwn i’n dda amdani.
Cafodd fy nod i fod yn ymchwilydd ei atgyfnerthu yn ystod fy nghwrs Meistr; astudiais ddulliau ymchwil a’u cymhwysiad i seicoleg. Roedd gen i ddiddordeb yn yr holl ffyrdd y gallwn i archwilio ffenomena – yn ansoddol, yn feintiol. Roeddwn i am fod yn rhan o fudiad i hybu gwyddoniaeth. Dyna’r hyn rydw i’n anelu ato. At hynny, rydw i’n hoffi’r syniad o ddefnyddio fy sgiliau i wella bywydau pobl eraill; gobeithio y byddaf yn gallu cyflawni hynny drwy fy ymchwil.
Beth gwnaeth eich denu at ymchwil i Brofiadau Andwyol mewn Plentyndod?
Rydw i bob amser wedi ymddiddori yn iechyd meddwl pobl ifanc a’r glasoed, gyda ffocws ar ymyrryd yn gynnar. Fel person ifanc a gafodd sawl profiad andwyol, rydw i’n frwdfrydig iawn am dynnu sylw at bwysigrwydd yr ymchwil hon a gwella canlyniadau ar gyfer y rhai sy’n cael Profiad Andwyol mewn Plentyndod, neu sydd wedi’u cael. Drwy wneud yr ymchwil hon, gallwn ni ddatblygu strategaethau mwy effeithiol i leihau Profiadau Andwyol mewn Plentyndod a gwella canlyniadau unigolion.
Oes maes ymchwil penodol mewn Profiadau Andwyol mewn Plentyndod sydd o ddiddordeb i chi?
Mae gen i ddiddordeb penodol mewn canlyniadau iechyd meddwl a lles, a sut gallai’r rhain gael eu hyrwyddo ymhlith y rhai sy’n cael Profiad Andwyol mewn Plentyndod, neu sydd wedi’u cael. Rydw i hefyd yn meddwl y gall ymagwedd gydol oes fod yn llawn gwybodaeth, felly mae’r cyfle am waith hydredol posibl o ddiddordeb i mi.
Beth ydych chi am ei gyflawni yn eich gyrfa?
Rydw i am barhau i feithrin fy mhortffolio ymchwil. At hynny, rydw i am weithio ar brosiectau cymunedol cenedlaethol a rhyngwladol i wella canlyniadau iechyd meddwl – yn enwedig ar gyfer y rhai sydd ag anfantais economaidd a chymdeithasol. Fy mhrif nod yw gwneud gwahaniaeth.
Pan nad ydych chi’n gweithio, beth rydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser rhydd?
Rydw i’n hoffi bowldro yn fy amser rhydd, dan do yn bennaf ond yn yr awyr agored hefyd pan fydd y tywydd yn addas. Rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored ac wrth fod yn actif – mynd am dro hir, neu daith ar feic. Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hollbwysig, ac rydw i’n ceisio fy ngorau glas i ofalu am fy hunan pryd bynnag y bo modd.