

Mae barn pobl ifanc ynglŷn ag ysmygu wedi parhau i ddod yn fwy negyddol ers cyflwyno’r e-sigarét, yn ôl astudiaeth a ariannwyd gan NIHR.
Cafodd y dadansoddiad, a gyhoeddwyd yn Tabacco Control heddiw, ei arwain gan Brifysgol Caerdydd ac roedd yn canolbwyntio ar dri arolwg cenedlaethol oedd yn cynnwys barn 248,324 o bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed.