

Yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), mae ein hymchwilwyr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae NCPHWR yn chwarae rhan allweddol yn darparu ymchwil iechyd ar sail tystiolaeth, yr ymddangosodd rhywfaint ohono yn Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru, a lansiwyd ar 7 Mai.
Prif Swyddog Meddygol Cymru sy’n cynghori gweinidogion ar faterion iechyd, yn arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru ac sy’n pleidio iechyd gwell ar ran pobl Cymru. Mae ei Adroddiad Blynyddol, sy’n dwyn y teitl ‘Gwerthfawrogi ein hiechyd’, yn amlinellu sut mae ymchwil presennol yn helpu i wella iechyd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Yn ei adroddiad, mae’r Prif Swyddog Meddygol yn diffinio sut mae Cymru’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant trwy ymchwil sy’n anelu at ganfod ffyrdd gwell o alluogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau iach.
Cydnabuwyd gwaith NCPHWR yn yr adroddiad, gyda’r Prif Swyddog Meddygol yn datgan, “Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR) yn arwain ymchwil i lywio mentrau atal gordewdra. Wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r Ganolfan wedi torri ei chwys ei hun o ran canfod tystiolaeth i ddatblygu dulliau gweithredu newydd.”
Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Dirprwy Gyfarwyddwr NCPHWR, “Mae defnyddio ymyriadau sy’n gweithio i oedolion yn uniongyrchol gyda phlant ifanc fel ateb cyflym wedi digwydd yn y gorffennol ac nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos bod hyn yn gweithio.
Rydym yn defnyddio dull gwahanol iawn drwy ddatblygu atebion y mae pobl ifanc eu heisiau, ac sy’n gynaliadwy, drwy ddeall y materion o safbwynt pobl ifanc.”
Ymchwil NCPHWR – creu rhwydwaith iechyd cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn cyfeirio at with ymchwil NCPHWR, sef Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Addysg Gynradd (HAPPEN), sydd wedi casglu data iechyd a gweithgarwch ar fwy na 4000 o ddisgyblion o ysgolion ar draws Abertawe. Mae’r data hyn yn helpu’r ysgolion hynny i ganfod a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ymhlith eu myfyrwyr.
Wrth edrych tuag at y dyfodol, dywedodd Emily Marchant, Ymchwilydd NCPHWR a Chydlynydd HAPPEN: “gan adeiladu ar ein llwyddiant, ein huchelgais yw i HAPPEN ehangu ar draws Cymru gyfan a darparu Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Ysgolion Cynradd i Gymru”.
Ymchwil NCPHWR – gofyn y cwestiynau cywir
Amlygodd Adroddiad y Prif Swyddog Meddygol waith Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) NCPHWR, sydd â’r nod o greu dyfodol iach i bobl ifanc yng Nghymru. Trwy gasglu data bob dwy flynedd gan fwy na 100,000 fyfyrwyr mewn ysgolion uwchradd ar hyd a lled Cymru, mae’r rhwydwaith yn galluogi i ysgolion gael dealltwriaeth well o’r heriau sy’n eu hwynebu, ac mae’n galluogi i ymchwilwyr nodi’r cwestiynau y mae angen eu hateb.
Dywedodd yr Athro Simon Murphy, Dirprwy Gyfarwyddwr NCPHWR a Phrif Ymchwilydd yn SHRN: “Trwy ein hymchwil, rydym wedi gallu nodi’r problemau iechyd y mae angen mynd i’r afael â hwy, pwysleisio’r dulliau gweithredu uniongyrchol sy’n gwneud gwahaniaeth a chydweithio i ddatblygu dulliau gweithredu ar sail tystiolaeth a fydd yn gwella rhagolygon cenedlaethau’r dyfodol.”
Ymchwil NCPHWR – galluogi pobl ifanc yn eu harddegau i wneud eu dewisiadau eu hunain
Yn ogystal, mae’r Adroddiad yn canolbwyntio ar waith prosiect Asesu Ffitrwydd Plant Trwy Dalebau Unigol (ACTIVE) NCPHWR, a oedd yn rhoi talebau gweithgareddau i ddisgyblion 13 i 14 oed blwyddyn 9, i’w gwario ar unrhyw weithgareddau corfforol o’u dewis, gan rymuso pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain, newid agweddau a lleihau anweithgarwch.
Gwnaeth y bobl ifanc yn eu harddegau eu hargymhellion hwy eu hunain hefyd am beth fyddai’n eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gan gynnwys costau is, cael cyfleusterau lleol a gweithgareddau penodol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.
Wrth drafod cam nesaf ACTIVE, dywedodd Michaela James, Ymchwilydd NCPHWR a Rheolwr Treial ACTIVE:
“Cynhyrchodd prosiect ACTIVE ganlyniadau rhagorol a chipolygon unigryw newydd i anweithgarwch pobl ifanc yn eu harddegau. Nawr, rydym yn symud i gam nesaf y prosiect, lle’r ydym yn bwriadu defnyddio’n canfyddiadau er mwyn datblygu ymyrraeth well eto i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i fod yn fwy egnïol.”
Ymchwil NCPHWR – effeithio ar Gymru gyfan
Daeth yr Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr NCPHWR, â’r adran hon yn adroddiad y Prif Swyddog Meddygol i gasgliad trwy ddweud: ““Gall y gwaith sy’n cael ei wneud gan NCPHWR gael effaith gadarnhaol, nid yn unig ar bobl ifanc a’u cyflawniadau, eu hiechyd a’u llesiant yn y dyfodol, ond hefyd ar gynhyrchiant ac iechyd Cymru gyfan o bosibl.”
Darllenwch yr adroddiad llawn yma: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gwerthfawrogi-ein-hiechyd.pdf