

Mae ffibromyalgia yn effeithio ar fenywod yn bennaf, ond mae dynion sydd â’r cyflwr gryn dipyn yn fwy tebygol o fod â mwy o gyflyrau meddygol ychwanegol, a elwir yn gydafiacheddau, yn ôl astudiaeth newydd dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth.
Mae ffibromyalgia yn gyflwr hirdymor sy’n achosi poen ym mhob rhan o’r corff. Mae’n gyflwr sy’n effeithio ar fenywod yn bennaf, ond mae rhai astudiaethau’n amrywio o safbwynt eu canfyddiadau, gan ddangos amcangyfrifon is, gyda 59% o achosion yn effeithio ar fenywod.
Mae diwygiadau i feini prawf dosbarthiad ffibromyalgia wedi arwain at wahanol amcangyfrifon achosion wrth gymharu menywod a dynion yn y boblogaeth gyffredinol. Nod yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn The Lancet Rheumatology, oedd mesur achosion newydd o ffibromyalgia i benderfynu a yw’r gymhareb ryw wedi newid yn dilyn y diwygiadau i’r meini prawf ac archwilio’r symptomau a’r driniaeth.
Cafodd 22,568 o unigolion â ffibromyalgia eu cynnwys yn yr astudiaeth
Edrychodd yr ymchwilwyr yn ôl ar ddata iechyd gofal sylfaenol electronig o Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Cafodd 22,568 o unigolion â ffibromyalgia eu cynnwys yn yr astudiaeth. Roedd yr ymchwil yn cynnwys unigolion 18 oed neu’n hŷn gan gychwyn o’r tro cyntaf iddynt sôn am ffibromyalgia, a rhoddodd sylw fesul rhyw – dynion neu fenywod. 48 oed oedd oedran y cyfranogwyr ar gyfartaledd.
Cyfrifwyd achosion o ffibromyalgia mewn tri chyfnod o 5 mlynedd (cyfnod 1: 2004–08, cyfnod 2: 2009–13, a chyfnod: 3 2014–18).
Canfyddiadau
- Roedd 88.8% o bobl yn yr astudiaeth yn fenywod.
- Yng nghyfnod 1 o’r 5,296 o achos newydd o ffibromyalgia, roedd 14.8% yn ddynion, ac 85.2% yn fenywod.
- Yng nghyfnod 2 o’r 5,958 o achos newydd, roedd 10.8% yn ddynion, ac 89.2% yn fenywod.
- Yng nghyfnod 3 o’r 11,314 achos newydd, roedd 9.7% yn ddynion, a 90.3% yn fenywod.
- Roedd gan y menywod BMI sylweddol uwch na’r dynion ac roedd eu poen yn fwy eang.
- Roedd gan y dynion lawer mwy o gydafiacheddau neu gyflyrau iechyd ychwanegol
- Roedd gan y menywod fwy o anhwylderau gastroberfeddol (cyflyrau sy’n effeithio neu’n cynnwys y stumog a’r coluddyn).
- Roedd nifer sylweddol uwch o fenywod yn cymryd steroidau, cyffuriau gwrth-iselder, cyffuriau lleihau a lleddfu gorbryder) a barbitwradau (cyffur a ddefnyddir fel ymlaciwr ac ar gyfer trin anhwylderau cysgu).
- Roedd mwy o ddynion yn cymryd gabapentin, sef cyffur sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i drin ffitiau, poen nerfol o’r eryr (“shingles”), a syndrom coesau aflonydd ond mae modd ei roi ar bresgripsiwn i leihau poen
Dywedodd Dr Roxanne Cooksey, ymchwilydd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Mae ein gwaith ymchwil yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ffibromyalgia a’r effeithiau gwahanol sylweddol mae’r cyflwr yn ei gael ar y ddau ryw. Nid yw ein data’n dangos cynnydd ffibromyalgia mewn dynion o’i gymharu â menywod. Fodd bynnag, gallai hyn fod yn amlwg mewn astudiaethau yn y dyfodol gan i’r system ddosbarthu gael ei diweddaru’n gymharol fuan cyn yr astudiaeth hon.
Gallai’r gwahaniaethau mewn triniaeth ffibromyalgia fesul rhyw fod yn arwydd o ddewisiadau clinigwr neu gleifion, ac yn destun archwilio teilwng ar gyfer astudiaethau’r dyfodol.”
Darllen yr erthygl yn y Lancet Rheumatology
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.