

Dyddiad: Dydd Sul 8 Mawrth 2020
Amser: 11.00am – 4.00pm
Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Cost: Am ddim
Fel unrhyw gyhyr arall, mae angen gweithgarwch corfforol ar eich calon i’w chadw’n iach. Hanfod ymarfer corff yw cael eich calon i guro’n gyflymach, a fydd yn ymarfer ac yn cryfhau eich calon ynghyd â’r cyhyrau rydych yn eu defnyddio yn eich corff.
Gwahoddir ymwelwyr ifanc i gymryd rhan yn ein her ‘Parth Hwyl Ffitrwydd’. Byddwn yn cymryd cyfradd curiad y galon cyn bownsio ar space hopper, cylchyn hwla neu sgipio am 5 munud ac wedi hynny. Bydd ein tîm wrth law i esbonio sut gall bod yn heini eich helpu i gael calon iach a hapus a theimlo’n wych!
Yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) rydym yn gweithio ar ystod eang o brosiectau ymchwil ac ymyriadau sy’n ceisio gwella iechyd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau gwych AM DDIM a gynhelir drwy gydol y dydd