

Dyddiad: 10 Mai 2018
Mike Robling: Darlith Athrawol Agoriadol: Cefnogi Plant i Gael y Dechrau Gorau Mewn Bywyd: Sut Ydym Yn Gwybod Beth Sy’n Gweithio?
Gall profiadau plentyndod cynnar gael effaith barhaus ar iechyd a lles hirdymor plentyn. Fodd bynnag, mae’r amgylchiadau unigol, cymdeithasol ac economaidd y mae rhai teuluoedd newydd yn eu hwynebu yn golygu bod cael dechrau da mewn bywyd yn gallu bod yn arbennig o anodd. Er enghraifft, mae plant mamau sydd yn eu harddegau yn fwy tebygol o gael pwysau geni isel, o beidio â bwydo o’r fron, o fod â risg uwch o ddamweiniau a marwolaeth gynnar, o wneud yn waeth yn addysgol, ac o gael problemau emosiynol ac ymddygiadol.
Mae cefnogaeth graidd i bob teulu drwy wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn y DU yn cynnwys gwaith bydwragedd cymunedol ac ymwelwyr iechyd. Mae cefnogi teuluoedd a allai elwa ar gael cymorth ychwanegol yn flaenoriaeth ar gyfer y llywodraeth genedlaethol a’r rhai lleol. Gall cefnogaeth ychwanegol o’r fath fod yn ddrud, ond gellir ei chyfiawnhau os gwelir y bydd plant a theuluoedd yn elwa yn y tymor hir. Yr her i lunwyr polisïau a gweithwyr proffesiynol yw adnabod pa deuluoedd fydd yn elwa fwyaf, pa raglenni cefnogaeth sydd â’r dystiolaeth gryfaf ac sydd fwyaf perthnasol i deuluoedd yn y DU.
Bydd yr Athro Robling yn adolygu rhai o’r datblygiadau diweddar yn y DU sydd â’r nod o wella cyfleoedd bywyd mamau a phlant, gan archwilio rhai o’r heriau methodolegol, moesegol a pholisi sy’n codi wrth geisio canfod beth sy’n gweithio i deuluoedd.
17:30 – 19:00, Darlithfa Michael Griffith, Campws Parc y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd, £0.00
Archebu: https://mikerobling.eventbrite.co.uk