Arolwg newydd yn gwahodd pobl ifanc rhwng 16 ac 18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru i rannu eu profiadau er mwyn helpu i wella’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Fy Mhrofiad Cymru yw’r arolwg cenedlaethol newydd a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, wedi ei gefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r arolwg wedi ei greu er mwyn i bobl ifanc rhwng 16 a 18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru allu rhannu eu profiadau, a fydd…