

Gall dulliau ac asesiadau ar-lein helpu i gyflymu diagnosis o anhwylder y sbectrwm awtistig (ASD), yn ôl yr arolwg cynhwysfawr cyntaf yn y maes.Dangosodd yr arolwg bod defnyddio dulliau rhyngrwyd ym maes gofal iechyd, a elwir yn teleiechyd, y potensial i wella gwasanaethau mewn gofal awtistiaeth pan gânt eu defnyddio ochr yn ochr â dulliau eraill.
Cynhaliwyd yr ymchwil, a gyhoeddwyd heddiw yn PLOS ONE, gan dîm o arbenigwyr o Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Prifysgol y Brenin Faisal a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r canlyniadau’n amserol iawn gan fod pandemig Covid-19 yn gofyn am feddwl arloesol pan ddaw i ddarparu gwasanaethau ar-lein.
Ar hyn o bryd, weithiau gall gymryd sawl blwyddyn ar ôl i rywun chwilio am help cyn y gellir cadarnhau diagnosis o ASD. Gall hyn fod o ganlyniad i ddiffyg arbenigedd, i’r angen am sawl apwyntiad, a’r ffaith y gall y broses achosi llawer o straen i unigolion a allai gael diagnosis o ASD yn hwyrach. Gan fod y rhain yn wasanaethau arbenigol, gallant hefyd ofyn am lawer o deithio i deuluoedd ac arbenigwyr.
Gall oedi o ran cael diagnosis arwain at ganlyniadau gwael i deuluoedd ac unigolion.
Mae teleiechyd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn meysydd fel radioleg, cardioleg, iechyd meddwl a monitro cleifion gyda diabetes a phwysau gwaed uchel.Fodd bynnag, yr astudiaeth newydd hon yw’r gyntaf i adolygu’r llenyddiaeth bresennol ar y defnydd o deleiechyd i gefnogi asesiadau diagnostig ym maes ASD.
Arolygodd y tîm ymchwil 20 mlynedd o ymchwil ym meysydd sy’n ymwneud ag awtistiaeth a theleiechyd, gan gyfyngu’r rhain i sampl gychwynnol o 3,700 o erthyglau i set o 10 i’w hastudio’n agos.
Ymchwilion nhw i’r ymagweddau teleiechyd sydd wedi cael eu defnyddio wrth wneud diagnosis ac asesu ASD mewn plant ac oedolion a sut maent yn cymharu â dulliau wyneb yn wyneb.
Datgelodd yr arolwg dwy brif ymagwedd i ddefnyddio teleiechyd:
1 Dull amser real – er enghraifft, fideogynadledda, sy’n galluogi amrywiaeth o weithwyr proffesiynol iechyd mewn meysydd gwahanol i gwrdd mewn amser real â’r teulu i asesu’r plentyn neu’r oedolyn, gan leihau’r angen i deithio neu gynnal sawl apwyntiad
2 Dull Cadw ac Ymlaen – sy’n cynnwys darparu ffordd i rieni/gofalwyr lanlwytho fideos o ymddygiad plentyn i borth ar y we, sy’n galluogi clinigwyr i weld y plentyn yn ei amgylchedd bob dydd, er mwyn llywio’r asesiad yn well.
Canfu’r tîm dystiolaeth bod y ddwy ymagwedd hon yn:
- dderbyniol i deuluoedd a chlinigwyr;
- meddu ar gywirdeb diagnostig da;
- yn galluogi teuluoedd o ardal ehangach i gyrchu gweithwyr proffesiynol;
- lleihau costau ar gyfer cyrchu gofal;
- gwneud hi’n bosib arsylwi ar ymddygiad naturiol yn y cartref;
- galluogi’r ddau riant mewn teuluoedd sydd wedi gwahanu i gyfrannu at y broses ddiagnostig.
Meddai’r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles:
“Mae’n bosib y gall teleiechyd wella effeithlonrwydd y broses rhoi diagnosis ar gyfer ASD.
Mae’r dystiolaeth a adolygwyd yn ein hastudiaeth yn dangos y gall leihau oedi a gwella canlyniadau wrth ei ddefnyddio mewn cyfuniad â dulliau presennol.Gallai fod o fudd penodol i’r rhai hynny â nodweddion awtistig clir ac oedolion ag ASD.
Mae dulliau teleiechyd yn galluogi cydweithio a rhannu profiadau rhwng y teulu a’r arbenigwyr addysg ac ASD. Gallant fod yr un mor dda â dulliau wyneb yn wyneb o ran bodlonrwydd i’r cleifion, teuluoedd a chlinigwyr.”
Ychwanegodd prif awdur yr ymchwil, Manahil Alfuraydan, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:
“Maent yn lleihau’r amser i gael diagnosis, yn enwedig i’r rhai hynny ag awtistiaeth fwy difrifol lle mae cytundeb da o ran diagnosis o’i gymharu â dulliau wyneb yn wyneb.
Mae ein hastudiaeth yn amlygu potensial teleiechyd. Mae angen treialon ar hap wedi’u rheoli ar gyfer y dechnoleg hon mewn perthynas ag ASD.”