

Er mwyn cynllunio ar gyfer y sefyllfa pan fydd plant yn dychwelyd i’r ysgol, bu’r rhwydwaith HAPPEN yn ymchwilio i ymatebion arolwg plant o’r cyfnod cyfyngiadau symud yn 2020 ac ymatebion yn yr un cyfnod yn 2019 a 2018. Gwnaethom ymchwilio i ymatebion gan 1333 o blant o 161 o ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau llawn wedi’u cyhoeddi yma.
Dywedodd plant eu bod yn cysgu’n well a bod eu lles yn well yn ystod cyfyngiadau symud 2020.
Dywedodd plant eu bod yn fwy corfforol actif (cerdded gyda’r teulu, beicio), cysgu’n well, gwell lles ac yn fwy hapus o ran eu teulu, eu hiechyd a’u bywyd o’i gymharu â 2019 a 2018. Roedd llai o anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud 2020 na’r blynyddoedd blaenorol ar yr un pryd.
Mae cau ysgolion yn ehangu anghydraddoldebau ar gyfer plant mwy difreintiedig
Serch hynny, roedd plant prydau ysgol am ddim yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau ac yn teimlo eu bod yn llai cymwys yn yr ysgol, yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol. Roedd plant prydau ysgol am ddim yn bwyta mwy o brydau ar glyd, yn gwneud llai o weithgareddau o’u cymharu â’r rhai nad oeddent yn derbyn prydau ysgol am ddim gan ddweud bod ganddynt lai o fynediad at ardaloedd diogel i chwarae, a allai fod yn rheswm am y lefelau gweithgarwch is. Mae hyn yn golygu y bydd hi’n debygol y bydd gwahaniaethau ehangach yn iechyd corfforol (e.e. gordewdra, ffitrwydd) y rhai hynny sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ar ôl y cyfnod cyfyngiadau symud o’i gymharu â’r rhai hynny nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Mae’r canfyddiadau o’r gwaith hwn yn dangos pwysigrwydd y diwrnod ysgol cyfan, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim a gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd diogel, gan leihau anghydraddoldebau iechyd corfforol mewn plant.
Pan fydd ysgolion yn ailagor, mae ein canfyddiadau’n awgrymu y bydd angen mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd corfforol ehangach megis gordewdra a deiet o safon is am gyfnod hwy ar gyfer y rheini o gefndiroedd difreintiedig.
Mae ein hastudiaeth hefyd yn amlygu pwysigrwydd amser gyda theulu ac amser i ymlacio a chysgu i blant o oed ysgol gynradd a’r effaith y gall hyn ei chael ar wella lles plant.