

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae’n hynod o bwysig ein bod yn deall ac yn cefnogi disgyblion a staff er mwyn i ysgolion allu addasu i’r heriau sy’n cael eu hwynebu nawr ac yn ystod y misoedd i ddod. Hyd yn oed yn dilyn ailagor yr ysgolion, mae plant ac athrawon yn wynebu effeithiau cau’r ysgolion ac maen nhw wedi addasu arferion yr ysgol gan gynnwys pellter cymdeithasol, adegau posibl o darfu ar ddysgu ac amharu ar waith arferol yr ysgol.
Sut gall HAPPEN helpu ysgolion i ddeall a chefnogi lles y disgybl?
Mae Rhwydwaith Ysgolion Cynradd HAPPEN, ym Mhrifysgol Abertawe, yn helpu i ysgolion ddeall iechyd corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol y disgybl yn well. Drwy wneud hyn bydd pawb yn gallu gweithio gyda’i gilydd i wella lles plant a chyrhaeddiad academaidd.
Beth sydd angen i Ysgolion ei wneud?
Gofynnir i’r disgyblion ym mlwyddyn 4, 5 a 6 lenwi arolwg ar-lein HAPPEN. Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar iechyd corfforol a meddwl. Unwaith bydd yr arolygon wedi’u llenwi, bydd tîm HAPPEN yn anfon adroddiad unigol i bob ysgol a fydd yn rhoi trosolwg cyffredinol o iechyd a lles yr ysgol honno.
“Fel ysgol, ni allwn bwysleisio cymaint mae HAPPEN wedi ein cefnogi wrth inni ymdrin â Lles. Rwy’n meddwl ei bod hi’n allweddol o ran cefnogi’r ffyrdd rydyn ni’n dysgu ac yn addysgu”. Jodi Webb-Clements, Ysgol Gynradd Eveswell.
Ymchwil sy’n canolbwyntio ar COVID
Ers y cyfnod cyfyngiadau symud, yn ogystal â llunio adroddiadau rheolaidd ar gyfer ysgolion cofrestredig, mae HAPPEN wedi gwneud ymchwil i ddeall yn well effaith COVID-19 ar iechyd a lles disgyblion a staff ysgolion cynradd Cymru er mwyn cyfrannu i’r gwaith o wneud penderfyniadau.
Ar y cychwyn, gofynnodd HAPPEN i ddisgyblion ysgol (rhwng 8 – 12 mlwydd oed) gymryd rhan yn ‘Arolwg bod Gartref HAPPEN’. Bwriad yr arolwg oedd deall ac yna nodi beth yw effaith cyfnod y cyfyngiadau symud ar iechyd a lles pobl ifanc. Dyma grynodeb o ganlyniadau’r arolwg.
Yna, pan ail-agorwyd yr ysgolion yn raddol fis Mehefin, anfonodd HAPPEN yr ‘Arolwg Dychwelyd i’r Ysgol’ i gael barn aelodau o staff am eu profiadau o ddychwelyd i’r ysgol. Llenwodd mwy na 200 o staff ysgolion cynradd yr arolwg. Oherwydd yr amseru a’r ymateb cyflym yr oedd ei angen cyn i’r ysgolion ddychwelyd, cafodd adroddiad ei lunio ym mis Awst 2020 i gyflwyno’r canfyddiadau cychwynnol a barn staff cyn i’r ysgolion ddychwelyd. Roedd y canfyddiadau cychwynnol yn dangos bod y staff o’r farn bod angen i’r plant fod nôl yn yr ysgol er mwyn eu datblygiad addysgol a chymdeithasol, ond pwysleisiodd yr arolwg hefyd nifer yr heriau ynghlwm wrth ddychwelyd i’r ysgol. Ymhlith yr heriau roedd gofalu bod cefnogaeth yn ei lle ar gyfer y disgyblion er mwyn lleihau bylchau yn eu haddysg o ganlyniad i gau’r ysgolion tra bod yr arolwg hefyd yn blaenoriaethu iechyd a lles y plant a’r staff. Roedd y canfyddiadau hefyd yn cynnwys argymhellion gan y staff o ran dychwelyd a dysgu cyfunol megis darparu gwell cefnogaeth ar gyfer dysgu digidol ac arweiniad a chyfathrebu cliriach gyda’r athrawon, a hynny er mwyn deall a rheoli disgwyliadau.
Pwysigrwydd ymchwil barhaus
Yn yr arolwg diweddaraf am athrawon, hoffai HAPPEN glywed gan staff addysgu am eu profiadau a’u barn ynghylch dychwelyd i’r ysgol yn amser llawn yn ystod y pandemig. Amcan yr arolwg am y disgyblion, a fydd yn cael ei gynnal ar yr un pryd, yw mesur sut mae’r disgyblion yn teimlo nawr o fod nôl yn yr ysgol. Gall hyn helpu’r ysgolion i ddeall anghenion eu disgyblion yn well, a hynny er mwyn gwell iechyd a lles.
Mae’r arolygon diweddaraf ar gael ar wefan HAPPEN.
Meddai’r Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCHPWR) ac Ymchwilydd Arweiniol HAPPEN: “Fel Rhwydwaith, rydym eisiau parhau i gefnogi ysgolion yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen. Mae ein hymchwil barhaus gyda’r disgyblion a’r athrawon fel ei gilydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni o ran rhai o’r heriau y bydd disgyblion ac ysgolion yn eu hwynebu. Mae ein canfyddiadau yn cael eu hadrodd nôl yn uniongyrchol i’r ysgolion er mwyn iddyn nhw ddeall a chymryd camau cadarnhaol i helpu i wella iechyd a lles holl gymuned yr ysgol. Fel tîm rydym hefyd yn rhannu’r canlyniadau hyn gyda llunwyr penderfyniadau yma yng Nghymru”.
I gael rhagor o wybodaeth am HAPPEN a sut i gofrestru eich ysgol a chymryd rhan yn yr arolygon, ewch i www.happen-wales.co.uk
Nod HAPPEN yw cyfuno addysg, iechyd ac ymchwil i helpu i ysgolion ddeall iechyd corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol y disgybl yn well. Mae HAPPEN yn rhan o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR). Ariennir yr NCPHWR gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.