

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl, ar 10 Hydref, yn ceisio codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ar draws y byd er mwyn sbarduno’r ymdrechion i gefnogi iechyd meddwl.
Thema eleni yw ‘pobl ifanc ac iechyd meddwl mewn byd sy’n newid‘. Mae atal yn dechrau gyda gwell dealltwriaeth ac mae’r diwrnod hwn yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at ein gwaith a chanfyddiadau cyfredol o ran iechyd meddwl a lles.
Cliciwch i wylio’r Athro Sinead Brophy, Dirprwy Gyfarwyddwr NCPHWR, yn sôn am rai o waith y Ganolfan o gwmpas iechyd meddwl a lles.
Darllenwch am ein rhwydweithiau ysgol HAPPEN a SHRN sy’n gweithio i wella iechyd a lles disgyblion ledled Cymru.
Trwy gydol #DiwrnodIechydMeddwl byddwn yn rhannu, drwy gyfryngau cymdeithasol, enghreifftiau o’n gwaith ymchwil ar y cyd a chyhoeddiadau diweddar – ac mae’r cwbl â’r nod o gefnogi a hyrwyddo gwelliannau i iechyd meddwl a lles i bobl ifanc yng Nghymru. Dilynwch ni ar Twitter, @NCPHWR_Wales