

Mae cryn dystiolaeth bod profiadau unigolyn yn ystod ei blentyndod yn chwarae rôl bwysig o ran ffurfio ei ddyfodol – gyda datblygiad plant yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cael ei gysylltu â chanlyniadau addysgol ac iechyd da yn ystod plentyndod, a chanlyniadau iechyd a chyflogaeth well yn ystod oedolaeth.
Mae ymchwilwyr NCPHWR, Emily Marchant a Dr Muhammad Rahman, yn siarad am eu hymchwil i atal, ac yn esbonio pam mae’r blynyddoedd cynnar mor hanfodol i greu canlyniadau cadarnhaol yn ddiweddarach mewn bywyd unigolyn. Gall ymyriad cynnar effeithiol yn ystod plentyndod ac ieuenctid dorri’r cylch o anghydraddoldebau iechyd a thangyflawni.
Emily Marchant, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Mae iechyd emosiynol da fel plentyn yn gosod y sylfaen at gyfer bodlonrwydd bywyd da yn ystod oedolaeth. Fodd bynnag, yn y DU, mae hapusrwydd plant a phobl ifanc â’u bywydau bellach ar ei lefel isaf ers 2010.
Mae ein tîm ymchwil, HAPPEN (Health and Attainment of Pupils in a Primary Education Network) wedi bod yn ymchwilio i sut gallwn ni wella iechyd a lles plant. Ond yn lle edrych at ddata ac ystadegau’n unig, a gofyn i arbenigwyr sy’n oedolion beth y maen nhw’n meddwl sydd orau, rydym ni wedi bod yn gofyn i blant. Fe wnaethon ni siarad â 2,000 o blant rhwng nawr ac 11 oed o’n rhwydwaith o ysgolion cynradd ledled de Cymru, a gofynnom iddyn nhw beth fydden nhw’n ei newid yn eu hardal i’w gwneud nhw eu hunain, eu ffrindiau a’u teulu’n iachach ac yn hapusach.
Wrth edrych ar yr ymatebion, fe wnaethon ni ganfod elfen gyffredin, mae plant eisiau lleoedd diogel i chwarae a bod yn egnïol. Nid yw beth y maen nhw’n gofyn amdanynt yn heriau enfawr. Os bydd camau gwirioneddol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r anghenion hyn, bydd amgylchedd gwell ar gyfer pawb mewn cymdeithas yn cael ei greu, yn ogystal â thoi lleoedd i blant chwarae a bod gyda ffrindiau.
Mae ein gwaith trwy HAPPEN yn caniatáu i ysgolion ganolbwyntio cyflwyno iechyd a lles ar ganlyniadau eu hadroddiad ysgol. Mae hyn yn effeithio ar iechyd a lles disgyblion trwy weithgareddau teilwredig y cwricwlwm a rhaglenni yn yr ysgol, sy’n cynyddu ymhellach bwysigrwydd a phroffil canlyniadau iechyd a lles yn ystod plentyndod.
Dr Muhammad Rahman, ymchwilydd NCPHWR ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Mae miliynau o bobl ledled y byd yn dioddef problemau iechyd meddwl. Ac er bod yr achosion yn amrywio, rydym ni’n gwybod bod hanner yr achosion hyn wedi dechrau yn ystod plentyndod neu’r arddegau. Yn y DU, mae atgyfeiriadau ar gyfer, ac adroddiadau o, bobl ifanc ag iselder a gorbryder, a phroblemau meddwl eraill, wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf – yn cynyddu 70% yn ystod y 25 mlynedd. Mae ymchwilwyr yn gwybod ers blynyddoedd bod cyswllt cryf rhwng addysg ac iechyd meddwl, a bod gwneud yn dda yn yr ysgol yn rhoi ymdeimlad cryf o deimlo’n dda am eu hunain – sydd, yn ei dro, yn gysylltiedig â lefelau uwch o les yn ystod oedolaeth.
Edrychom ar gofnodion addysg ac iechyd (gan gynnwys ffeiliau meddygon teulu a derbyniadau i ysbyty) mwy na 600,000 o blant ledled Cymru, a chanlyniadau eu profion ysgol.
Wrth edrych ar y cofnodion hyn, fe wnaethon ni ganfod bod plant a oedd “dirywio” yn yr ysgol yn fwy tebygol o fod ag iselder yn eu harddegau. Amlygwyd bod y plant yn gwneud yn dda yn yr ysgol pan oeddent yn saith oed ond, wedi hynny, nid oeddent yn llwyddo – neu roeddent yn “dirywio” – yn ystod eu harddegau, yna, wedi cael diagnosis o iselder. Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ddatgelu nad yw hunan-niweidio’n gysylltiedig â phrofiad mewn ysgol gynradd, ond ei fod yn gysylltiedig â phrofiadau yn ystod yr arddegau.
Hefyd, fe wnaethon ni ganfod bod saith y cant o’r merched a tri y cant o’r bechgyn wedi cael eu trin neu wedi cael diagnosis o iselder erbyn iddyn nhw gyrraedd 19 oed. Mae hynny’n 33,500 o blant o’r cofnodion hyn yn unig yn cael eu trin ar gyfer iselder.
Mae gan ein hastudiaeth oblygiadau pwysig, sy’n awgrymu efallai bod symptomau iselder yn cael eu colli mewn plant ysgol gynradd, ac y gallai cefnogaeth ar gyfer datblygiad emosiynol a chymdeithasol mewn ysgolion cynradd leihau a helpu atal broblemau iechyd meddwl yn y dyfodol.
Cliciwch ar y llun isod i ddarllen yr erthygl nesaf sy’n canolbwyntio ar flynyddoedd yr arddegau: