

Gall yr arddegau fod yn heriol, yn emosiynol ac yn gorfforol, i bobl ifanc. Mae’n gcyfnod o newid cyflym ac mae’n gyfnod pwysig o ran datblygu a phontio rhwng plentyndod ac oedolaeth.
Mae ymchwilwyr NCPHWR, James White, Michaela James a’r Athro Jane Noyes, yn siarad am eu hymchwil i atal, ac yn esbonio pam mae’r arddegau mor ganolog i ddatblygiad iachus.
Dr James White, ymchwilydd NCPHWR yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd
Uchafbwynt atal
Gall ymddygiadau risg, fel smygu a defnyddio cyffuriau, grwpio gyda’i gilydd yn ystod yr arddegau – sy’n arwain at broblemau iechyd a chlefydau yn ddiweddarach mewn bywyd. Ar hyn o bryd, nid ydyn ni’n gwybod pa ymyriadau sy’n effeithiol o ran atal ymddygiadau risg niferus ymhlith plant a phobl ifanc.
Mewn adolygiad cydweithredol diweddar dan arweiniad Ysgol Feddygol Prifysgol Bryste, fe wnaethon ni ddadansoddi astudiaethau presennol a oedd yn ystyried ffyrdd i atal neu leihau cymryd rhan mewn dau neu fwy o ymddygiadau risg ymhlith pobl ifanc rhwng 8 oed a 25 oed.
Mae canfyddiadau’r tîm yn awgrymu mai ymyriadau cyffredinol yn yr ysgol, a gynigwyd i bob plentyn, oedd y ffordd fwyaf effeithiol o atal ymddygiadau risg, fel defnyddio tybaco, defnyddio alcohol, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc.
Mae’r canfyddiad bod un ymyriad yn yr ysgol yn effeithiol o ran atal mwy nag un ymddygiad risg yn bwysig, gan fod ysgolion yn darparu llwyfan y gellir ei ailadrodd i gyflwyno ymyriadau ar draws y boblogaeth.
Michaela James, ymchwilydd NCPHWR (ACTIVE) ym Mhrifysgol Abertawe
Uchafbwynt atal
Mae adran iechyd y DU yn argymhell y dylai pobl ifanc (rhwng pump ac 18 oed) gwblhau o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd. Ond nid oes digon o bobl ifanc yn gwneud hyn.
Mewn ysgolion, mae plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu o oedran ifanc am fuddion bod yn egnïol. Dylen nhw wybod ei fod yn lleihau’r risg o ordewdra, clefyd coronaidd y galon a diabetes, ac yn cynyddu lles. Ond mae diffyg gweithgarwch ymhlith pobl ifanc wedi dod yn gymaint o broblem, mae bellach yn bryder iechyd cyhoeddus difrifol.
Ar gyfer ein prosiect diweddaraf, ACTIVE (The active children through individual vouchers evaluation project), roedden ni eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc wneud eu hargymhellion eu hunain i helpu pobl eraill o’r un oed i bod yn fwy egnïol nawr, a pharhau i fod yn egnïol yn y dyfodol.
Fe wnaethon ni weithio gyda mwy na 70 o bobl ifanc yn eu harddegau, o saith ysgol uwchradd yn Abertawe, i lunio rhestr o argymhellion hawdd i’w gweithredu. Roedd yr argymhellion yn amrywio o leihau cost, gwneud gweithgareddau’n fwy lleol, rhoi dewis o weithgareddau i bobl ifanc, a darparu gweithgareddau y byddai merched yn eu mwynhau.
Mae ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi yn chwarae rôl hanfodol mewn dylunio cynlluniau gweithgarwch corfforol ond, yn aml, nid ydyn nhw’n siarad yn uniongyrchol â’r grwpiau y maen nhw eisiau eu targedu. Trwy gynnwys argymhellion y bobl ifanc eu hunain yn yr atebion ar gyfer y dyfodol, efallai y gallwn ni ddatrys y broblem genedlaethol o bobl ifanc yn bod yn segur o’r diwedd.
Ni allwn ni amcangyfrif yn rhy isel grym atal ar ffurf gweithgarwch, nid ar gyfer iechyd corfforol yn unig, ond ar gyfer iechyd meddwl hefyd. Rydym ni’n gyffrous cael datblygu ACTIVE a’i droi’n brosiect arweiniol ar gyfer atal.
Yr Athro Jane Noyes, Dirprwy Gyfarwyddwr NCPHWR ym Mhrifysgol Bangor
Uchafbwynt atal
Mae oddeutu 49,000 o blant rhwng 0 ac 18 oed yn y DU yn byw â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd, ac mae oddeutu 13,000 ohonynt yn y grŵp oedran 18 i 25 oed. Yn y DU, gall cynllunio ar gyfer gwasanaethau pontio ddechrau pan maent oddeutu 14 oed, a pharhau hyd at drosglwyddo rhwng 16 oed ac 18 oed.
Er gwaethaf dau ddegawd o ymchwil a mentrau i wella ansawdd y gwasanaeth, mae pobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd yn dal i feddwl bod y cyfnod pontio yn anfoddhaol – ac nid ydym ni’n deall yn llwyr beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwasanaethau gofal lliniarol plant ac oedolion, sy’n creu anawsterau i bobl ifanc.
Yn ein hastudiaeth, fe wnaethon ni archwilio’r gwahaniaethau hyn, ac anawsterau a phrofiadau pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod pontio yn fanylach. Fe wnaethon ni amlygu chwe maes lle’r oedd realitioedd anghyson yn bodoli, sy’n helpu i esbonio’r dryswch, y dicter a’r dieithriad yr oedd pobl ifanc a’u rheini wedi’i ddioddef – gan gynnwys gwahaniaethau o ran cyfathrebu, cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a chyllido. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys set o argymhellion ar gyfer model gofal lliniarol newydd i gefnogi’r cyfnod pontio o ofal plentyn i ofal oedolyn.
Mae canfyddiadau ac argymhellion ein hastudiaeth yn darparu arweiniad y gellir ei ddefnyddio i atal y materion hyn ac arwain at newidiadau i ymarfer, helpu i dargedu gofal yn fwy effeithiol ac, yn y pen draw, arwain at wasanaeth ac ansawdd bywyd sy’n well yn sylweddol, i gleifion a’u teuluoedd.
Gall pobl ifanc â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd fod wedi cael eu trawmateiddio, a gall y broses o bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Gallai ymagwedd fwy rhagweithiol at atal y problemau hysbys o ran cydlynu gwasanaethau a chyfathrebu rhag digwydd helpu i liniaru’r effeithiau negyddol ar bobl ifanc a’u teuluoedd.
Cliciwch y llun isod i ddarllen yr erthygl nesaf sy’n canolbwyntio ar gefnogi rhieni a’r teulu: