Yn ystod y cyfnod hwn, credwn ei bod yn bwysig deall sut y gall iechyd, lles a bywyd teuluol yn ystod beichiogrwydd ac ym mlwyddyn gyntaf bywyd, effeithio ar iechyd a lles ein plant yn y dyfodol. Gall y wybodaeth hon ein helpu i nodi’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi teuluoedd. Hoffem ofyn a fyddech chi’n barod i lenwi holiadur byr i ddweud wrthym amdanoch chi’ch hun. Diben y gwaith hwn yw edrych ar ddatblygiad plant, ac er mwyn osgoi anfon llawer o holiaduron atoch chi, hoffem ofyn am ganiatâd i gysylltu â’r data iechyd, data addysg a data eraill a gesglir yn rheolaidd ac a gedwir amdanoch chi a’ch plentyn. Mae’r wybodaeth hon yn ddienw ac ni fyddwn ni’n gallu’ch adnabod chi na’ch plentyn, ond mae’n ein galluogi ni edrych ar sut mae iechyd yn ystod beichiogrwydd (er enghraifft maint ar enedigaeth) yn effeithio ar ba mor barod y mae plant i ddechrau mynychu’r ysgol, a thrwy hynny, helpu i lywio ymyriadau a all gynorthwyo plant sy’n dechrau yn yr ysgol. Os NAD ydych eisiau i ni ddefnyddio’ch cofnodion dienw sy’n bodoli, nid oes angen i chi ddarllen ymhellach. Fodd bynnag, os hoffech wybod rhagor, gweler y wybodaeth isod.
Taflen Wybodaeth (Fersiwn 2.0, Dyddiad 03/06/2020)
Paragraff Gwahodd: Fe’ch gwahoddwyd i gymryd rhan mewn astudiaeth a fydd yn edrych ar yr hyn sydd ei angen i gynorthwyo teuluoedd â phlant ifanc.
1.Beth yw diben yr astudiaeth?
Bydd y data a gasglwn yn ein helpu i ddeall iechyd a lles presennol teuluoedd yn well, ac yn llywio gwasanaethau a chymorth sydd eu hangen i gynnal teulu iach a chefnogi iechyd ac addysg plant.
2.Pam ydw i wedi cael fy newis?
Rydym yn gofyn i chi gymryd rhan oherwydd rydych chi neu’ch partner ar fin cael babi. Mae iechyd yn ystod beichiogrwydd yn bwysig iawn ar gyfer iechyd y babi a’r rhieni yn y dyfodol, ac felly mae cyfnod beichiogrwydd yn amser perffaith i ddechrau archwilio’r hyn a all helpu teuluoedd i fod yn iach. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr astudiaeth hon, cysylltwch ag unrhyw aelod o’r tîm a nodir yn y manylion ar ddiwedd y daflen wybodaeth hon.
3.Beth fydd yn digwydd os byddaf i’n cymryd rhan?
Byddwn ni’n gofyn i chi lenwi holiadur ar-lein am eich iechyd, eich lles a’ch ffordd o fyw, a fydd yn cymryd tua 20 munud. Caiff yr holiadur ei lenwi ar-lein gan ddefnyddio’ch ffôn, llechen neu gyfrifiadur. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi gytuno i ail-lenwi’r holiadur o fewn 12 mis er mwyn edrych ar newidiadau o ran iechyd a lles.
Hefyd, byddwn ni’n gofyn i chi am wybodaeth i’w defnyddio i gysylltu â’ch cofnodion iechyd. Mae hyn yn golygu y bydd eich enw’n cael ei newid i rif, a rhoddir y rhif mewn cronfa ddata ddienw. Gwneir hyn gan drydydd parti dibynadwy, sef Gwasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Pan fydd y rhifau yn y gronfa ddata ddienw, ni fydd modd eu holrhain yn ôl i’ch enw. Gellir defnyddio’r gronfa ddata hon i gysylltu â chofnodion eraill fel cofnodion iechyd (e.e. cofnodion meddygon teulu ac ysbytai). Ni ellir eich adnabod yn ystod y broses hon, a gellir edrych ar yr holl ddata cysylltiedig fesul grwpiau’n unig (er enghraifft, p’un ai oedd iechyd gwell yn gysylltiedig â grŵp a fu’n cadw’n heini, o gymharu â grŵp na fu’n cadw’n heini). Bydd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau am eich cyflogaeth, eich profiad o’r gwasanaethau a dderbynioch, eich iechyd a’ch lles eich hun, a gwybodaeth gefndir arall (e.e. ethnigrwydd).
Gofynnwn am gael cysylltu â’ch cofnodion iechyd fel y gallwn ni archwilio’r effaith y mae cyflyrau fel asthma neu epilepsi yn ei chael ar deuluoedd, o’r cyfnod beichiogrwydd i’r blynyddoedd cynnar a thu hwnt. Gall hyn helpu i lywio gwasanaethau, fel ysgolion a darparwyr gofal iechyd, o ran pa gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen fwyaf ac sy’n fwyaf buddiol.
4.Beth yw’r anfanteision posibl wrth gymryd rhan?
Mae’n bosibl y bydd yr holiadur yn holi cwestiynau sy’n achosi gofid i chi. Er enghraifft, gofynnwn am symptomau COVID19 gan ein bod eisiau edrych ar yr effaith hirdymor o brofi symptomau COVID yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, gallai hyn wneud i chi gofio a gofidio am yr effeithiau. Rydym wedi cynnwys manylion cyswllt lleoedd y gallwch chi fynd atynt am gymorth a chyngor.
Yn bwysig iawn, mae’r gwaith hwn at ddibenion ymchwil yn unig. Nid ydym yn cysylltu â’ch darparwr gofal iechyd nac yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth i unrhyw un arall. Os oes angen i chi weld gweithiwr proffesiynol iechyd, ni fyddwn yn trosglwyddo’ch manylion, felly bydd dweud wrthym DDIM yn arwain at atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol. Mae ein gwaith yn ddienw, ac felly ni allwn roi gwybod i eraill os ydych chi’n bersonol angen cymorth a chyngor. Os oes angen i chi siarad â gweithiwr gofal iechyd, gallwn roi manylion cyswllt i chi, ond ni fyddwn yn eich atgyfeirio at unrhyw ddarparwr gofal iechyd.
5.Beth yw’r manteision posibl wrth gymryd rhan?
Gall cymryd rhan yn yr astudiaeth hon helpu i wella ein dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i gefnogi teuluoedd i fod yn iach. Wrth gymryd rhan, byddech chi’n helpu i wella ein dealltwriaeth o’r effaith y mae ein ffordd o fyw bresennol yn ei chael ar ein hiechyd a’n hapusrwydd, ac yn helpu i wella cymorth a chefnogaeth i deuluoedd pan fydd eu hangen arnyn nhw.
6.A fydd y ffaith fy mod i’n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol?
Bydd yr holl ddata a gasglwn yn cael eu cadw’n breifat ac yn gyfrinachol; bydd eich enw’n cael ei newid i rifau. Bydd unrhyw gopïau papur o’r data yn cael eu cadw mewn swyddfa ddiogel, a bydd ffeiliau cyfrifiadur ac unrhyw wybodaeth bersonol yn cael eu diogelu gan gyfrinair a’u cadw ar wahân oddi wrth y wybodaeth a nodwch yn yr holiadur, fel na ellir eich adnabod. Dim ond unigolion awdurdodedig o fewn y tîm ymchwil fydd yn edrych ar y data a gesglir. Bydd y data a roddwch i ni yn cael eu cadw am o leiaf 18 mlynedd, gan y byddwn yn archwilio’r ffordd y mae plant yn tyfu ac yn datblygu hyd nes eu bod yn oedolion.
7.Beth os oes gen i unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth, mae pob croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o’r tîm ymchwil (gweler y manylion cyswllt isod).
Os byddwch chi, ar ôl yr astudiaeth, yn gofidio am y ffordd y cynhaliwyd unrhyw agwedd ar yr ymchwil, cysylltwch â Chadeirydd Pwyllgor Moeseg yr Ysgol Feddygaeth: sumsresc@swansea.ac.uk