Mae astudiaeth Ganwyd Yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ac mae’n cydymffurfio ag egwyddorion y rheoliadau diogelu data perthnasol. Mae hyn yn cynnwys Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yr Undeb Ewropeaidd a Deddf Diogelu Data’r Deyrnas Unedig. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich data yn cael eu trin yn briodol a bod unrhyw wybodaeth a gedwir gennym yn cael ei storio’n ddiogel a’i defnyddio mewn ffordd gyfreithlon a moesegol.
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio:
- Pa ddata rydym yn eu casglu;
- Ar ba seiliau rydym yn cadw eich data personol;
- Sut bydd y data yn cael eu defnyddio;
- Am faint o amser y byddwn yn eu cadw; ac
- Ym mhle fydd y data yn cael eu cadw.
Mae’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn ymwneud â chasglu, trin a storio data a roddir i ni gan famau beichiog a thadau sy’n llenwi arolwg Ganwyd Yng Nghymru.
Nid yw’r Datganiad hwn yn ymwneud â’r data dienw a ddefnyddir ym mhrosiect Ganwyd Yng Nghymru a’r hyn a gedwir o fewn Banc Data SAIL. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae SAIL yn cael mynediad i ddata sydd wedi’u gwneud yn ddienw, ac yn storio a rheoli’r data hyn at ddibenion ymchwil, ewch i https://saildatabank.com/saildata/data-privacy-security/?lang=cy.
1.0 Ganwyd Yng Nghymru a’n cysylltiadau data
Mae Ganwyd Yng Nghymru yn brosiect ymchwil sydd wedi’i leoli o fewn Prifysgol Abertawe. Caiff Ganwyd Yng Nghymru ei lywodraethu gan holl bolisïau a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe. Prifysgol Abertawe yw’r Rheolydd Data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion. Mae’r data a gedwir gan Ganwyd Yng Nghymru yn cael ei brosesu o dan sail gyfreithiol “tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd” a “dibenion archifo, dibenion ymchwil gwyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol er budd y cyhoedd” lle mae angen i’r Brifysgol gasglu data er mwyn cynnal gwaith ymchwil penodol. Caiff data personol a data categori arbennig eu casglu dim ond gan gyfranogwyr sydd wedi rhoi eu cydsyniad i gymryd rhan yn yr arolwg. Rhoddir gwybodaeth lawn i gyfranogwyr mewn perthynas â’r arolwg trwy Daflen Wybodaeth i Gyfranogwyr.
2.0. Y wybodaeth mae Ganwyd Yng Nghymru yn ei chadw a sut bydd yn cael ei defnyddio
2.1. Manylion cyswllt menywod beichiog a’u partneriaid
Mae enwau a chyfeiriadau e-bost, rhifau cyswllt a chyfeiriadau post menywod beichiog a’u partneriaid yn cael eu prosesu i’n galluogi i gysylltu â menywod beichiog a’u partneriaid mewn perthynas â rhoi gwybod iddynt am ganlyniadau, a recriwtio ar gyfer cymryd rhan mewn holiadur dilynol pellach. Prosesir y data hyn fel buddiant dilys. Cedwir y wybodaeth bersonol ganlynol, yn dibynnu ar y dull cysylltu a ffefrir ganddynt:
- Enw
- Cyfeiriad E-bost
- Cyfeiriad Post
- Rhif Ffôn
2.2. Cydsyniad gan fenywod beichiog a’u partneriaid i gymryd rhan yn yr arolwg.
Bydd y data a gesglir mewn perthynas â chydsyniad i gymryd rhan yn yr arolwg yn cael eu cadw o dan fuddiant dilys i sicrhau bod Ganwyd Yng Nghymru yn defnyddio data dim ond gan y cyfranogwyr hynny sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn yr astudiaeth.
Cedwir y wybodaeth bersonol ganlynol:
- Enw
- Cyfeiriad
Cedwir y data hyn er mwyn sicrhau sylfaen dystiolaeth bod yr holl gyfranogwyr sy’n cymryd rhan yn gwneud hynny â chydsyniad. Bydd cofnodion cydsyniad yn cael eu cadw am 10 mlynedd.
2.3. Data hunangofnodedig gan fenywod beichiog a’u partneriaid
Bydd data hunangofnodedig pellach a gedwir yn cynnwys:
- Tarddiad ethnig y cyfranogwr
- Dyddiad geni’r cyfranogwr
- Cyfeiriadedd rhywiol y cyfranogwr
- Iechyd a lles y cyfranogwr
- Cyflogaeth y cyfranogwr
Gelwir y sail gyfreithlon i ni brosesu data personol yn ‘dasg er budd y cyhoedd’ (Erthygl 6 GDPR). Yn achos ‘data categori arbennig’ fel cyfeiriadedd rhywiol ac ethnigrwydd, yn ogystal ag Erthygl 6, mae’r sail gyfreithlon ‘at ddibenion archifo, dibenion ymchwil gwyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol er budd y cyhoedd’ (Erthygl 9 GDPR ). Cesglir data hunangofnodedig gan ddefnyddio MS Forms, sy’n ddarostyngedig i GDPR. Rhennir eich data o’r arolwg yn ddwy ffeil; ffeil 1 (sy’n cynnwys gwybodaeth adnabyddadwy) a ffeil 2 (sy’n cynnwys ymatebion i’r arolwg a gedwir ar ffurf ffug-ddienw).
3.0 Pwy sy’n derbyn eich gwybodaeth ac am faint o amser y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw
Defnyddir eich data i gydymffurfio â’n gofynion llywodraethu gwybodaeth at ddibenion tystiolaeth ar gyfer proses gydsynio neu gysylltu ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
Anfonir eich data adnabyddadwy (ffeil 1) at drydydd parti dibynadwy (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru), trwy drosglwyddo ffeiliau’n ddiogel, fel rhan o’r broses cysylltu data. Maen nhw’n gweld eich gwybodaeth adnabyddadwy yn unig (enw, dyddiad geni a chyfeiriad), nid gweddill y data o’ch arolwg. Maen nhw’n defnyddio eich data personol i greu rhif sydd wedi’i wneud yn ddienw, a ddefnyddir wedyn i gysylltu eich atebion i’r arolwg (ffeil 2) yn ddienw â ffynonellau data eraill fel eich cofnodion iechyd ac addysg trwy gronfa ddata SAIL (https://saildatabank.com/saildata/data-privacy-security/?lang=cy). Hefyd, defnyddir y data iechyd a lles hunangofnodedig a roddwch (ffeil 2) i roi adroddiadau i’r llywodraeth, i fydwragedd ac i’r GIG y tu allan i SAIL. Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi data dienw ac agregedig yn unig (h.y. ar lefel grŵp mawr) ac nid oes unrhyw unigolion yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau.
Bydd eich manylion cyswllt a roddir i arolwg Ganwyd yng Nghymru (enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn) yn cael eu cadw am 5 mlynedd at ddibenion ailgysylltu ac i roi gwybod am ganlyniadau’r astudiaeth. Os byddwch chi’n tynnu’n ôl eich cydsyniad at ddibenion ailgysylltu, bydd y manylion cyswllt hyn yn cael eu dileu o’n cronfa ddata.
4.0 Ein trefniadau diogelwch a’ch data
Rydym wedi ymrwymo i gadw’ch data yn ddiogel. Bydd unrhyw ddata a roddir gennych i ni yn cael eu cadw dim ond ar weinyddion diogel y mae Prifysgol Abertawe yn berchen arnynt ac yn eu gweinyddu ac sy’n destun gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas i ddiogelu a sicrhau diogelwch y wybodaeth a gasglwn. Dim ond ymchwilwyr a enwir fydd yn cael mynediad i’r data, a bydd pob un ohonynt wedi ymgymryd â hyfforddiant ymchwilydd diogel.
4.1 Cael mynediad i’ch data a’u diweddaru
Gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg ynghylch sut rydym yn cysylltu â chi a sut rydym yn prosesu eich data, neu gallwch ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi trwy gysylltu â rheolwr y ganolfan: s.j.dredge@swansea.ac.uk
Byddwn yn rhagweithiol wrth gadw ein cofnodion yn gyfredol a byddwn yn anelu at weithredu pob newid i ddewisiadau cyfathrebu o fewn 7 diwrnod gwaith.
5.0 Eich data a’ch hawliau
Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data newydd yn cryfhau ac yn ychwanegu at hawliau unigolion ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r hawliau hyn.
Mae gennych hawl i gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol, ac i gywiro, dileu, cyfyngu ar, a chludo eich gwybodaeth bersonol. Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe i gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’ch hawliau.
Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data, a gellir cysylltu â’r swyddog trwy dataprotection@abertawe.ac.uk.
Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol:
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)
Swyddfa’r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk
Sut i wneud cwyn
Os ydych yn anhapus â’r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi’i phrosesu, gallwch gysylltu yn y lle cyntaf â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.
Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: –
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.
Gwybodaeth ychwanegol
Os hoffech wybod mwy am y ffordd rydym yn prosesu data, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad hwn, cysylltwch â ni: https://ncphwr.org.uk/cy/cysylltwch-ncphwr-2/. Byddwn yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen arnoch chi.